Rheolau Dillad Pwll
Mae Byw’n Iach yn ymdrechu i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn teimlo’n gyfforddus yn ein pyllau nofio drwy gael cawod cyn nofio a gwisgo dillad nofio glân. Rydym yn awyddus i gwsmeriaid deimlo’n gyfforddus wrth ddefnyddio ein pyllau ac ymfalchïo mewn bod yn ddarparwr hamdden i bawb. Gweler isod ein canllaw dillad nofio i helpu i’w wneud yn gliriach.
Mae’n rhaid i ddillad nofio fod yn addas ac yn briodol bob amser. Dyma rheolau ein pyllau nofio o ran dillad addasu.
Rydym yn croesawu cwsmeriaid i wisgo'r canlynol:
- Gwisgoedd nofio, ffrogiau nofio, bicinis, tankinis, burkinis, siwtiau gwyleidd-dra
- Shorts nofio/truncs
- Rhaid i fabanod a phlant nad ydynt wedi cael hyfforddiant toiled eto wisgo clwt nofio tafladwy o dan ddillad nofio priodol.
- Yn ogystal â dillad nofio gall cwsmeriaid wisgo crysau-t â sail lycra (llewys hir neu fyr), siorts neu legins
- Gallai dillad nofio nad ydynt yn ddeunydd sy’n gwrthsefyll clorin gael eu difrodi
- Gofynnwn i gwsmeriaid wisgo dillad sy’n darparu gorchudd addas ac nad ydynt yn dryloyw pan fyddant yn wlyb
Nid yw gwisgo'r dillad canlynol yn derbyniol:
Nid yw gwisgo’r dillad canlynol yn derbyniol:
- Dillad isaf
- Eitemau denim, dillad trwm a/neu llac
- Dillad cotwm
- Argymhellir tynnu’r holl emwaith cyn nofio
Rheolau Esgidiau Addas:
- Caiff cwsmeriaid wisgo esgidiau pwll addas wrth symud o’r ystafelloedd newid i ochr y pwll, dim esgidiau awyr agored
- Dim ond sanau pwll y gellir eu gwisgo wrth nofio. Fodd bynnag, os oes gennych gyflwr meddygol a bod angen esgidiau ychwanegol arnoch, siaradwch â’r dderbynfa cyn mynd i mewn i nofio.
Os oes angen unrhyw arweiniad pellach arnoch, yna cysylltwch ag aelod o staff a fydd yn gallu cynorthwyo/cynghori.