Dewis Iaith:

Plant Actif

Pwrpas yr is-frandiau Byw’n Iach yma yw pecynnu’r gwahanol wasanaethau y mae’n eu darparu i drigolion Gwynedd.

Mae hwn yn grŵp o weithgareddau ar gyfer plant oed cynradd a’u rhieni.

Rydym yn cynnig pob math o weithgareddau i blant cynradd yn ystod y tymor ysgol a’r gwyliau:

  • Gwersi Nofio a Chyrsiau Nofio Dwys
  • Gwersi Gymnasteg
  • Chwaraeon Bach a Mawr
  • Chwarae Meddal

Dilynwch y ddolen ar gyfer holl brisiau’r gweithgareddau hyn: Prisiau Llawn

Felly, cadwch olwg am y logo plant actif yn ystod y tymor ysgol a chadwch olwg am lawer o weithgareddau i’ch cadw’n brysur!

I glywed am weithgareddau diweddaraf Plant Actif, ymunwch â’r grŵp Facebook: Grŵp Facebook Plant Actif