Dewis Iaith:

Nofio

Yn wahanol i chwaraeon eraill, mae nofio yn ymgysylltu â phob grŵp cyhyrau a system egni! Mae nofio yn gwella hyblygrwydd, ystod o symudiadau, a chryfder swyddogaethol yn y dŵr. Mae hyn yn arwain at gryfder craidd gwell a sefydlogrwydd symudol yn eich holl gymalau, yn ogystal â chyhyrau cryfach a gwell sgiliau echddygol.

Mae Byw’n Iach yn cynnig amrywiaeth o sesiynau nofio ar draws y sir, mewn 7 canolfan wahanol; Arfon, Bangor, Glaslyn, Dwyfor, Bro Ffestiniog, Penllyn a Bro Dysynni.

 

Gwersi Nofio

 

Gwersi Nofio Plant

Rydym yn dilyn Fframwaith Dysgu Nofio Cymru er mwyn cynnig gwersi nofio i ansawdd uchel a phroffesiynol i blant Gwynedd. Mae gennym hyfforddwyr gyda chymwysterau SEQ lefel uchel ac maent yn mynychu hyfforddiant parhaus. Felly, gallwch fod yn hyderus y bydd eich plentyn yn cael hyfforddiant rhagorol. Mae ein gwersi nofio yn gwneud yn siŵr fod POB plentyn yn dysgu nofio gwaeth be yw eu gallu, na’u hanghenion.

Mae’r gwersi nofio ar gael mewn 7 canolfan: Arfon, Bangor, Bro Dysynni, Bro Ffestiniog, Dwyfor, Glaslyn, Penllyn

Dyma becyn gwybodaeth ar gyfer y gwersi nofio sydd yn cael ei gynnig yn Byw’n Iach: Pecyn Gwersi Nofio

Gwersi Oedolion

O’r holl sgiliau bywyd sy’n werth eu dysgu, mae nofio yn un o honnynt. Nid yn unig y gallai achub eich bywyd, ond mae’n wych i helpu eich lles corfforol a meddyliol. Byddwch chi’n synnu pa mor hawdd â hwyl yw nofio ar ôl i chi ddechrau!

Dyma becyn gwybodaeth am fframwaith y gwersi nofio: Pecyn Gwybodaeth

Gwersi Nofio i plant gydag Anghenion Ychwanegol

Mae ein gwersi nofio i blant ag anghenion ychwanegol yn ddosbarthiadau o grwpiau bach (mwyafrif o 4) yn rhoi cyfle i’r athro addasu’r wers fel bod pawb yn cael y cyfle i ddysgu a datblygu. Mae ein hathrawon yn ymwybodol fod pawb angen cael eu trin fel unigolyn ag bod anghenion gwahanol i ddysgu nofio. Mae yn bosib i riant fynd i’r dŵr i gefnogi’r plentyn os oes angen.

Mae ein hathrawon yn dysgu sut i symud yn y dŵr a sgiliau cyd-symud sydd yn helpu gyda sgiliau corfforol tu allan i’r pwll. Rydym yn canolbwyntio ar allu’r plentyn ag rhoi dewis a chyfle iddynt i ddatblygu drwy chwarae, yn ogystal â chanolbwyntio ar y sgiliau craidd o ddysgu nofio. Er mwyn i athrawon lwyddo mae yn hanfodol ein bod yn cael gymaint o wybodaeth a phosib am y plentyn. Nodwch unrhyw anghenion sydd gennych yn nerbynfa’r canolfan, a byddwn yn trin y wybodaeth hon yn gyfrinachol.

Gwelwch pryd mae’r sesiwn yn eich canolfan yma: Amserlen

 

Nofio Am Ddim

 

Lansiwyd Nofio Am Ddim am y tro cyntaf yng Nghymru yn 2003. Hon oedd y rhaglen nofio am ddim genedlaethol gyntaf yng Nghymru. Y nod? Cael mwy o bobl ifanc (16 oed ac iau) a phobl dros 60 oed i ddysgu nofio a nofio’n fwy rheolaidd. 

  • Nofio Am Ddim 0 – 16 oed – sesiynau nofio am ddim i blant dan 16 yn ystod penwythnosau, heblaw am sesiwn Bro Ffestiniog sydd ar Nos Fawrth. Mae hefyd sesiynau ychwanegol am ddim ar gael yn ystod gwyliau’r haf.  Bydd angen Tocyn Aelodaeth Blynyddol Byw’n Iach i fynychu sesiynau nofio am ddim. Cysylltwch a’r ganolfan leol er mwyn trefnu hyn. 
  • Nofio am ddim 60+ – Gall cwsmeriaid dros 60 oed, sy’n byw yng Nghymru, nofio yn unrhyw un o’n pyllau nofio am ddim yn ystod sesiynau nofio penodol. Rhaid i chi gael yr aelodaeth flynyddol i gael mynediad i’r sesiynau am ddim 60+. 
  • Nofio am Ddim trwy’r Cerdyn Max – Byddwn yn darparu mynediad am ddim i sesiynau nofio teulu yn ein pyllau i deuluoedd sydd a Cherdyn Max. Bydd angen i un oedolyn yn y teulu fod yn aelod o Byw’n Iach er mwyn i’r teulu cael nofio am ddim. Pan fydd y cwsmeriaid yn ffonio i archebu lle, rhaid gwneud y canlynol. Rhagor o wybodaeth ar y wefan yma: Gwefan Cerdyn Max 
  • Nofio am Ddim ar gyfer Gofalwyr Ifanc – Byddwn yn darparu mynediad am ddim i sesiynau nofio cyhoeddus i’r Gofalwr + 1 ffrind neu aelod teulu. 
  • Nofio am Ddim ar gyfer Cyn-filwyr – Byddwn yn darparu mynediad am ddim i sesiynau nofio yn ein pyllau i unrhyw un sydd hefo cerdyn DDS a Defence Privilege Card. 

 

 

Ap Byw'n Iach

Cynlluniwch eich ymweliad gyda ni drwy archebu sesiwn drwy'r ap.

Cadwch eich hoff sesiynau mewn un lle

Daliwch i fyny gyda'r Newyddion, cyhoeddiadau a hyrwyddiadau diweddara!

Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein ap yn rhad ac am ddim! Llwytho i lawr heddiw.

Babi Actif

Blynyddoedd cynnar gyda rhieni,
a mamau beichiog cymraeg

Plant Actif

Plant oed cynradd
a’u rhieni

Pobl Ifanc Actif

Pobl ifanc
rhwng 11-24

Gall Genod

Merched a merched
o bob oed

Actif Am Oes

Ffitrwydd dwysedd isel
a chwaraeon i bob oed