Dosbarthiadau Ffitrwydd

Croeso i’n tudalen gwefan am ein dosbarthiadau ffitrwydd! Yma yn Byw’n Iach, rydym yn helpu pawb o bob oed i fyw bywydau hapus, iach, ac actif.
Rydym yn ysbrydoli pobl i fyw bywydau egnïol ac actif drwy ein dosbarthiadau ffitrwydd cyffrous! Nid yw’r profiad yn unig yn rhoi’r her i’ch corff, ond hefyd i’ch meddwl. O ymarferion dwys i symudiadau ymarferol ac adfywiol, mae ein dosbarthiadau yn addas ar gyfer pob un sy’n chwilio am her newydd i’w bywydau. Os ydych chi’n edrych i golli pwysau, cynnal eich ffitrwydd, neu ysgogi’ch hun i gyrraedd eich nodau personol, mae dosbarth ffitrwydd yn fanylebol i chi!
Nid yn unig y byddwch yn gwella’ch ffitrwydd, ond byddwch hefyd yn cael y cyfle i greu cysylltiadau newydd ac chreu ffrindiau. Mae cefnogaeth ein hyfforddwyr profiadol yn sicrhau eich bod yn cael profiad diogel ac effeithiol bob tro.
Rydym yn argymell i chi gyrraedd 10 munud cyn y dosbarth i gael cyfle i sgwrsio gyda’n hyfforddwyr. Gall hyn helpu i leihau’r nerfau cyn dechrau’r sesiwn a rhoi cyfle i chi ymddiried yn eich hun.
Peidiwch ag oedi! Archebwch eich lle yn y dosbarth heddiw i sicrhau eich bod chi’n cael eich lle, gan fod y dosbarthiadau’n llenwi’n gyflym iawn. Byddwch yn rhan o’r antur ffitrwydd a chael profiad sy’n eich ysbrydoli i gyrraedd eich nodau.
Beth sydd ar gael?
Mae llu o ddosbarthiadau ar gael ar draws 12 canolfan ar draws Gwynedd. Er mwyn dod o hyd i’r dosbarth sydd yn addas i chi, dilynwch y linc i amserlen eich canolfan lleol: Amserlen Byw’n Iach Penllyn
Dosbarthiadau Ffitrwydd Byw'n Iach
Dyma gynnwys holl ddosbarthiadau ffitrwydd Byw’n Iach!
Dosbarth | Disgrifiad |
---|---|
Seiclo dan do | Bydd y dosbarth yma yn helpu chi wella eich lefel ffitrwydd. Mae bod ar feic llonydd/sefydlog yn rhoi ymarfer di-bwysedd i chi. Oherwydd y natur di-bwysedd nid oes straen ar eich cymalau, ac yn eich galluogi i weithio ar lefel ymwrthedd personol i chi. Gyda cerddoriaeth a hyfforddwr ysgogol, mae dosbarth Seiclo Dan Do yn ffordd wych o gadw’n heini. |
Cyflyru Cylchol | Dosbarth sy'n cynnwys nifer o bwyntiau ymarfer. Mae'n canolbwyntio ar ddygnwch y cyhyrau, cryfder craidd, ffitrwydd cardiofasgwlaidd a hyblygrwydd. Mae'r dosbarthiadau cylchol yn hynod o boblogaidd ac yn ffordd wych o ymarfer corff a llosgi calorïau. |
Powerwave | Ymarfer wrth ddefnyddio bag o bwysau amrywiol rhwng 2 fag 7kg neu 12kg yn unig. Bydd y dosbarth yma yn eich helpu i wella cryfder a hefyd llosgi braster y corff. |
Craidd | Mae'n targedu eich torso i gyd. Mae craidd cryf yn arwain at gorff cryf, ffit a fydd yn llai tebygol o anafu. |
Bwtcamp | Mae'r ymarfer milwrol hwn yn gymysgedd o ymarferion cardiofasgwlaidd ac ymarferion ymwrthedd (resistance). Mae'n cyfuno ymarferion sy'n dibynnu ar bwysau'r corff yn unig gydag ymarferion pwysau rhydd. Bydd yn eich helpu i wella eich cydbwysedd, eich cryfder a'ch hyblygrwydd. Mae'r ymarfer yn addas i bob lefel ffitrwydd. |
Body Pump | Mae Pump FX yn sesiwn ymarfer i'r corff cyfan. Trwy ddefnyddio barbells a phwysau y gellir eu haddasu, bydd y dosbarth hwn yn helpu i wella cryfder a dygnwch eich cyhyrau. Mae'r dosbarth wedi'i ddylunio i losgi braster y corff a thynhau eich cyhyrau. Mae croeso i bob lefel o ffitrwydd yn y dosbarth hwn. |
TABATA | Ymarfer gyda 8 rownd. Mae pob ymarfer yn cael ei amseru am 20 eiliad o waith, gyda 10 eiliad o ymlacio. Mae'n canolbwyntio ar yr un ymarfer ac yn anelu i allu gwella eich perfformiad pob rownd os bosib. |
Cylched Cardio | Ymarfer tebyg i HITT sydd yn llosgi calorïau ac yn cryfhau cyhyrau'r galon. Mae'r sesiwn yn llosgi braster ac yn gwella eich ffitrwydd. |
HITT | Byr, dwys, cyflym a phwerus! Mae HITT (high intensity interval training) yn ymarfer dwys ysbeidiol sy'n eich gwthio i weithio mor galed ag y gallwch er mwyn cynyddu eich gallu cardiofasgwlaidd a llosgi calorïau yn ystod y sesiwn ymarfer, ac ar ôl y sesiwn oherwydd yr effaith 'afterburn'. Mae'r sesiwn yma yn llosgi braster ac yn gwella dygnwch eich cyhyrau. |
Hyfforddiant Swyddogaethol | Mae hyfforddiant swyddogaethol yn ddull o hyfforddiant sy'n ymdrechu i gael eich corff yn sefydlog, mewn cydbwysedd a gallu perfformio yn ei anterth. Mae'n cynnwys symud mewn amryw o sefyllfaoedd (syth ymlaen, ochr/ochr, a throi) gan ddefnyddio sgiliau gwahanol o gefnogaeth (2 goes, safiad i gam-ogamu, un goes), a gweithredu amgylcheddau ansefydlog i herio'r cyhyrau sy'n rheoli eich cymalau. |
Yoga | Mae yoga yn sesiwn sydd yn helpu llawer o bethau gwahanol fel ymestyn, anadlu, helpu gyda phroblem cefn trwy ymarferion araf yn canolbwyntio ar y symudiadau. Dyma ddosbarth sydd yn gwella a dysgu'r corff i ymlacio. |
Coesau, Pen ôl, a'r bol | Targedu rhannau canol a gwaelod y corff. Mae'r ymarfer yn cael ei gwneud yn araf neu yn sydyn. Mae'n ymarfer i gryfhau'r cyhyrau ac 'tonio'. |
Pilates | Mae Pilates yn ffurf ymarfer corff yn canolbwyntio ar wella hyblygrwydd, cryfder, a ystum y corff. Mae'n cynnwys cyfres o symudiadau rheoledig ar fat, gan dargedu'r cyhyrau craidd yn ogystal â'r breichiau, y coesau, a'r cefn. Mae Pilates yn helpu i adeiladu dygnwch cyhyrol, gwella cydbwysedd, ac annog ymwybyddiaeth gyffredinol o’r corff, gan ei wneud yn addas i bobl o bob lefel ffitrwydd. |
Fitball | Mae dosbarth Fitball yn ffordd dda i wella eich cryfder, cydbwysedd a hyblygrwydd gan ddefnyddio Swiss Ball. Ymarfer gwych ar gyfer craidd y corff. Mae'r dosbarth yma yn mynd i herio eich balans, sadrwydd a gwella ystum eich corff drwy cryfhau y cyhyrau sydd yn cefnogi eich asgwrn cefn. |
HYROX | Mae ein dosbarthiadau HYROX yn sesiwn fydd yn codi curiad eich calon ac yn cynnwys symudiadau swyddogaethol. Mae’r ymarfer yma yn mynd i wella eich ffitrwydd cardiofasgwlaidd trwy gwneud ymarferion dwysedd uchel a rhedeg. Bydd hefyd yn cryfhau eich cyhyrau trwy wneud symudiadau swyddogaethol. Bydd y dosbarth yma yn eich paratoi tuag at cystadleuaethau HYROX |
Effaith Metabolig | Mae dosbarth Effaith Metabolig yn ymarfer dwysedd uchel, yn defnyddio pwysau (dumbells) i gael effaith metabolig da ar y corff. Bydd yr hyfforddwr yn eich gweithio yn galed ac mae modd i chi orffwys pan fyddwch angen. |
Acwa | Mae aerobeg dŵr yn cynnig nifer o fanteision. Mae'r ymarfer effaith isel hwn yn gwella ffitrwydd cardiofasgwlaidd, cryfder a dygnwch wrth hyrwyddo hyblygrwydd a chydbwysedd. Mae gwrthiant y dŵr yn helpu i adeiladu tôn cyhyrau heb bwysau, ac mae effaith oeri'r dŵr yn atal gorboethi, gan wneud ymarferion yn fwy cyfforddus. |
Boxercise | Mae dosbarth Boxercise yn llawn egni ac yn defnyddio technegau ymarfer sydd yn cael ei defnyddio gan bocswyr. Cewch ddysgu ac ymarfer sut i ddyrnu fel ‘jabs’, ‘hooks’ a ‘uppercuts’. Mae Boxercise yn ymarfer dwysedd uchel fel HIIT ac yn siŵr o godi curiad y galon. Gyda cymysgedd o ymarferiadau cryfder a dygnwch i dargedu gwahanol cyhyrau y corff. Mae’n ffordd dda o lleihau straen a phryder, drwy rhyddau endorffinau. Ymarfer effeithiol i golli pwysau, tonio’r corff, gwella cydsymud llaw a llygad (hand-eye coordination) a sgiliau echddygol (motor skills). Mae Boxercise yn ymarfer gwych a hwyliog ar gyfer y corff gyfan |
Body Blast | Mae dosbarth Body Blast yn Cyfuniad o Gryfder, Dwysedd uchel a Cardio sydd yn targedu y corff gyfan. Mae’r dosbarth yma yn debyg iawn i HIIT - yn llosgi calorïau a gwella eich ffitrwydd cyffredinol. Dosbarth addas ar gyfer dwysedd Canol i Uchel |
Cysylltwch â Ni
Os hoffech wybod rhagor am ein dosbarthiadau ffitrwydd neu os hoffech archebu lle ar gyfer sesiwn profiadol, cysylltwch â ni heddiw cyswllt@bywniach.cymru. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’n cymuned iach ac actif!
Archebwch dros y ffon: Cysylltwch
Archebwch ar lein: Archebu