Dewis Iaith:

Gweithgareddau Plant

Croeso i’n byd bywiog o weithgareddau plant! Yma, rydym yn credu yng ngrym chwarae, creadigrwydd, a thanio meddyliau ifanc. P’un a ydych chi’n rhiant, yn ofalwr neu’n addysgwr, fe welwch drysorfa o syniadau i gadw’r rhai bach i ymgysylltu, difyrru a dysgu.

Gweithgareddau Gwyliau Ysgol Plant

Mae Byw’n Iach yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau Plant dros y gwyliau ysgol ar gyfer pob oed.

Dyma flas o’r hyn sy’n dod ar draws ein canolfannau yn ystod gwyliau’r ysgol.

  • Chwarae Meddal  0 – 5 oed
  • Sesiynau Chwarae i blant ag anghenion ychwanegol
  • Gwersyll Chwaraeon  8 – 11 oed
  • Gwersyll Chwaraeon Bach  5 – 7 oed
  • Sesiynau Pasbort Ffitrwydd 11 – 15 oed
  • Mynediad am ddim i ddosbarthiadau ffitrwydd y brif raglen i blant 11 – 18 oed
  • Chwarae Allan – caniatáu i blant a phobl ifanc lleol ddefnyddio’r tu allan i gyrtiau/caeau yn rhad ac am ddim yn ystod oriau agor y ganolfan a sesiynau allanol a archebir gan gwsmeriaid.
  • Nofio am Ddim 0 – 16 oed
  • Sesiynau pwmpiadwy a fflôt
  • Cyrsiau Nofio Dwys Wythnosol
  • Gwersi Nofio Swigod 0 – 3 oed

Sesiwn Chwarae i Blant ag Anghenion Ychwanegol

Bydd y neuadd yn llawn sesiynau hwyliog yn cynnwys castell neidio, ardal synhwyraidd ac amrywiaeth o wahanol deganau felly ni fydd prinder o bethau hwyliog i’w gwneud! Pwy fydd yn gallu ymuno â’r sesiynau? Mae’r sesiynau yn agored i bob plentyn neu berson ifanc ag anghenion ychwanegol yn ogystal â’u teuluoedd. Mae croeso i frodyr a chwiorydd, rhieni, gofalwyr a neiniau a theidiau i gyd! Mae’r sesiynau ar gyfer y teulu cyfan!

Dydd Sadwrn cyntaf pob mis:

  • Byw’n Iach Arfon : 10:00-11:00
  • Byw’n Iach Dwyfor : 10:00 – 10:45
  • Byw’n Iach Penllyn : 10:00 – 11:00

Ail ddydd Sadwrn pob mis:

  • Byw’n Iach Glaslyn : 10:00 – 10:45

Partïon Plant

Mae Byw’n Iach yn cynnig amrywiaeth a phartïon o fewn ein canolfannau, o bartïon pwll, chwarae meddal a phartïon NERF.

Bydd angen cysylltu eich canolfan lleol i archebu – Nid yw pob cyfleuster ar gael ym mhob canolfan.

Gwersi Plant

Gwersi Nofio Plant

Rydym yn dilyn Fframwaith Dysgu Nofio Cymru er mwyn cynnig gwersi nofio i ansawdd uchel a phroffesiynol i blant Gwynedd. Mae gennym hyfforddwyr gyda chymwysterau SEQ lefel uchel ac maent yn mynychu hyfforddiant parhaus. Felly, gallwch fod yn hyderus y bydd eich plentyn yn cael hyfforddiant rhagorol. Mae ein gwersi nofio yn gwneud yn siŵr fod POB plentyn yn dysgu nofio gwaeth be yw eu gallu, na’u hanghenion. 

Mae’r gwersi nofio ar gael mewn 7 canolfan: Arfon, Bangor, Bro Dysynni, Bro Ffestiniog, Dwyfor, Glaslyn, Penllyn

Dyma becyn gwybodaeth ar gyfer y gwersi nofio sydd yn cael ei gynnig yn Byw’n Iach: Pecyn Gwersi Nofio

Gwersi Gymnasteg Plant

Mae Byw’n Iach yn cynnig ystod eang o wersi gymnasteg ar wahanol lefelau mewn 5 o’n canolfannau, o ddosbarthiadau dechreuwyr: efydd, dosbarthiadau canolradd: arian, dosbarth uwch: aur, dosbarth elitaidd: platinwm. 

Mae ein dosbarthiadau gymnasteg Byw’n Iach yn dilyn llwybr Rise Gymnasteg Cymru sy’n datblygu’r sgiliau gymnasteg hanfodol yn y meysydd canlynol: Darllen Mwy Yma 

Mae’n rhaid i bob plentyn sy’n cymryd rhan yn y dosbarthiadau fod mewn addysg llawn amser, gan fod yn 4 oed yn troi’n 5 oed yn y flwyddyn addysgol (Medi 01 – Awst 31). Awgrymwn fod y plant yn mynychu tan eu 14 oed, yna awgrymwn eu bod yn dilyn hyfforddiant proffesiynol gyda chymhwyster arweinydd chwaraeon. 

Cesglir taliadau am wersi trwy daliad misol Debyd Uniongyrchol. Unwaith y bydd gymnastwyr wedi cwblhau eu lefel Platinwm, byddant wedi cyrraedd diwedd eu taith yn Gwersi Gymnasteg Byw’n Iach ac yn gallu parhau â’u datblygiad mewn clybiau lleol. 

Dyma ddywedodd cwsmer am wersi gymnasteg Byw’n Iach:

“Dwi erioed wedi gweld neb yn dod a hi allan o’i swilder mor sydyn â chi. Roedd o’n braf gweld hi’n mwynhau, yn gwrando ag ymateb mor dda. Gerddodd hi o’r sesiwn wedi dysgu sgiliau newydd ac wedi magu hyder amhrisiadwy i’w datblygiad hi. Diolch o galon!”

Ap Byw'n Iach

Cynlluniwch eich ymweliad gyda ni drwy archebu sesiwn drwy'r ap.

Cadwch eich hoff sesiynau mewn un lle

Daliwch i fyny gyda'r Newyddion, cyhoeddiadau a hyrwyddiadau diweddara!

Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein ap yn rhad ac am ddim! Llwytho i lawr heddiw.

Babi Actif

Blynyddoedd cynnar gyda rhieni,
a mamau beichiog cymraeg

Plant Actif

Plant oed cynradd
a’u rhieni

Pobl Ifanc Actif

Pobl ifanc
rhwng 11-24

Gall Genod

Merched a merched
o bob oed

Actif Am Oes

Ffitrwydd dwysedd isel
a chwaraeon i bob oed