Mae Byw’n Iach Dwyfor yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a dosbarthiadau ffitrwydd.
Mae nofio yn rhan bwysig o’r hyn rydym yn ei gynnig. Mae gennym Bwll Nofio 25m, Pwll Nofio Bach a llithren ddŵr. Rydym yn cynnig gwersi nofio i blant ac oedolion.
Rydym hefyd yn cynnig ystod eang o ddosbarthiadau ffitrwydd. Pob un wedi ei gynllunio i helpu chi gadw’n heini ac iach. Mae gennym rywbeth ar gyfer pob gallu, o’r rhai sydd eisiau gwaith dwys, i’r rhai sydd eisiau colli ychydig o bwysau.
Mae gennym Ystafell Ffitrwydd llawn offer gydag amrywiaeth o beiriannau ffitrwydd Pulse, beiciau a phwysau rhydd yn ein canolfan hefyd.
Heol Hamdden,
Pwllheli,
Gwynedd
LL53 5PF
+
Mi fydd y pwll nofio ar gau rhwng 19:00-20:00 ar y dyddiadau isod:
18/03/25, 01/04/25, 15/04/25, 29/04/25, 13/05/25
Mi fydd y pwll yn cau i’r cyhoedd am 11:00 ar Dydd Sadwrn 05/04/25.
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleuster.
Er mwyn sicrhau bod ein holl gwsmeriaid yn cael cyfle teg i fynychu, rydym yn annog pawb i gofrestru ar gyfer un dosbarth HYROX ar nos Fawrth yn unig. Bydd hyn yn sicrhau bod mwy o bobl yn cael cyfle i gymryd rhan yn y dosbarthiadau poblogaidd hyn.Cynlluniwch eich ymweliad gyda ni drwy archebu sesiwn drwy'r ap.
Cadwch eich hoff sesiynau mewn un lle
Daliwch i fyny gyda'r Newyddion, cyhoeddiadau a hyrwyddiadau diweddara!
Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein ap yn rhad ac am ddim! Llwytho i lawr heddiw.