Dewis Iaith:

Dosbarthiadau Ffitrwydd

Croeso i’n tudalen gwefan am ein dosbarthiadau ffitrwydd! Yma yn Byw’n Iach, rydym yn helpu pawb o bob oed i fyw bywydau hapus, iach, ac actif.

Rydym yn ysbrydoli pobl i fyw bywydau egnïol ac actif drwy ein dosbarthiadau ffitrwydd cyffrous! Nid yw’r profiad yn unig yn rhoi’r her i’ch corff, ond hefyd i’ch meddwl. O ymarferion dwys i symudiadau ymarferol ac adfywiol, mae ein dosbarthiadau yn addas ar gyfer pob un sy’n chwilio am her newydd i’w bywydau. Os ydych chi’n edrych i golli pwysau, cynnal eich ffitrwydd, neu ysgogi’ch hun i gyrraedd eich nodau personol, mae dosbarth ffitrwydd yn fanylebol i chi!

Nid yn unig y byddwch yn gwella’ch ffitrwydd, ond byddwch hefyd yn cael y cyfle i greu cysylltiadau newydd ac chreu ffrindiau. Mae cefnogaeth ein hyfforddwyr profiadol yn sicrhau eich bod yn cael profiad diogel ac effeithiol bob tro.

Rydym yn argymell i chi gyrraedd 10 munud cyn y dosbarth i gael cyfle i sgwrsio gyda’n hyfforddwyr. Gall hyn helpu i leihau’r nerfau cyn dechrau’r sesiwn a rhoi cyfle i chi ymddiried yn eich hun.

Peidiwch ag oedi! Archebwch eich lle yn y dosbarth heddiw i sicrhau eich bod chi’n cael eich lle, gan fod y dosbarthiadau’n llenwi’n gyflym iawn. Byddwch yn rhan o’r antur ffitrwydd a chael profiad sy’n eich ysbrydoli i gyrraedd eich nodau.

Beth sydd ar gael?

Mae llu o ddosbarthiadau ar gael ar draws 12 canolfan ar draws Gwynedd. Er mwyn dod o hyd i’r dosbarth sydd yn addas i chi, dilynwch y linc i amserlen eich canolfan lleol: Amserlen Byw’n Iach Bro Dysynni


Dosbarthiadau Ffitrwydd Byw'n Iach

Dyma gynnwys holl ddosbarthiadau ffitrwydd Byw’n Iach!

Dosbarth Disgrifiad
Seiclo dan do Bydd y dosbarth yma yn helpu chi wella eich lefel ffitrwydd. Mae bod ar feic llonydd/sefydlog yn rhoi ymarfer di-bwysedd i chi. Oherwydd y natur di-bwysedd nid oes straen ar eich cymalau, ac yn eich galluogi i weithio ar lefel ymwrthedd personol i chi. Gyda cerddoriaeth a hyfforddwr ysgogol, mae dosbarth Seiclo Dan Do yn ffordd wych o gadw’n heini.
Cyflyru Cylchol Dosbarth sy'n cynnwys nifer o bwyntiau ymarfer. Mae'n canolbwyntio ar ddygnwch y cyhyrau, cryfder craidd, ffitrwydd cardiofasgwlaidd a hyblygrwydd. Mae'r dosbarthiadau cylchol yn hynod o boblogaidd ac yn ffordd wych o ymarfer corff a llosgi calorïau.
Powerwave Ymarfer wrth ddefnyddio bag o bwysau amrywiol rhwng 2 fag 7kg neu 12kg yn unig. Bydd y dosbarth yma yn eich helpu i wella cryfder a hefyd llosgi braster y corff.
Craidd Mae'n targedu eich torso i gyd. Mae craidd cryf yn arwain at gorff cryf, ffit a fydd yn llai tebygol o anafu.
Bwtcamp Mae'r ymarfer milwrol hwn yn gymysgedd o ymarferion cardiofasgwlaidd ac ymarferion ymwrthedd (resistance). Mae'n cyfuno ymarferion sy'n dibynnu ar bwysau'r corff yn unig gydag ymarferion pwysau rhydd. Bydd yn eich helpu i wella eich cydbwysedd, eich cryfder a'ch hyblygrwydd. Mae'r ymarfer yn addas i bob lefel ffitrwydd.
Body Pump Mae Pump FX yn sesiwn ymarfer i'r corff cyfan. Trwy ddefnyddio barbells a phwysau y gellir eu haddasu, bydd y dosbarth hwn yn helpu i wella cryfder a dygnwch eich cyhyrau. Mae'r dosbarth wedi'i ddylunio i losgi braster y corff a thynhau eich cyhyrau. Mae croeso i bob lefel o ffitrwydd yn y dosbarth hwn.
TABATA Ymarfer gyda 8 rownd. Mae pob ymarfer yn cael ei amseru am 20 eiliad o waith, gyda 10 eiliad o ymlacio. Mae'n canolbwyntio ar yr un ymarfer ac yn anelu i allu gwella eich perfformiad pob rownd os bosib.
Cylched Cardio Ymarfer tebyg i HITT sydd yn llosgi calorïau ac yn cryfhau cyhyrau'r galon. Mae'r sesiwn yn llosgi braster ac yn gwella eich ffitrwydd.
HITT Byr, dwys, cyflym a phwerus! Mae HITT (high intensity interval training) yn ymarfer dwys ysbeidiol sy'n eich gwthio i weithio mor galed ag y gallwch er mwyn cynyddu eich gallu cardiofasgwlaidd a llosgi calorïau yn ystod y sesiwn ymarfer, ac ar ôl y sesiwn oherwydd yr effaith 'afterburn'. Mae'r sesiwn yma yn llosgi braster ac yn gwella dygnwch eich cyhyrau.
Hyfforddiant Swyddogaethol Mae hyfforddiant swyddogaethol yn ddull o hyfforddiant sy'n ymdrechu i gael eich corff yn sefydlog, mewn cydbwysedd a gallu perfformio yn ei anterth. Mae'n cynnwys symud mewn amryw o sefyllfaoedd (syth ymlaen, ochr/ochr, a throi) gan ddefnyddio sgiliau gwahanol o gefnogaeth (2 goes, safiad i gam-ogamu, un goes), a gweithredu amgylcheddau ansefydlog i herio'r cyhyrau sy'n rheoli eich cymalau.
Yoga Mae yoga yn sesiwn sydd yn helpu llawer o bethau gwahanol fel ymestyn, anadlu, helpu gyda phroblem cefn trwy ymarferion araf yn canolbwyntio ar y symudiadau. Dyma ddosbarth sydd yn gwella a dysgu'r corff i ymlacio.
Coesau, Pen ôl, a'r bol Targedu rhannau canol a gwaelod y corff. Mae'r ymarfer yn cael ei gwneud yn araf neu yn sydyn. Mae'n ymarfer i gryfhau'r cyhyrau ac 'tonio'.
Pilates Mae Pilates yn ffurf ymarfer corff yn canolbwyntio ar wella hyblygrwydd, cryfder, a ystum y corff. Mae'n cynnwys cyfres o symudiadau rheoledig ar fat, gan dargedu'r cyhyrau craidd yn ogystal â'r breichiau, y coesau, a'r cefn. Mae Pilates yn helpu i adeiladu dygnwch cyhyrol, gwella cydbwysedd, ac annog ymwybyddiaeth gyffredinol o’r corff, gan ei wneud yn addas i bobl o bob lefel ffitrwydd.
Fitball Mae dosbarth Fitball yn ffordd dda i wella eich cryfder, cydbwysedd a hyblygrwydd gan ddefnyddio Swiss Ball. Ymarfer gwych ar gyfer craidd y corff. Mae'r dosbarth yma yn mynd i herio eich balans, sadrwydd a gwella ystum eich corff drwy cryfhau y cyhyrau sydd yn cefnogi eich asgwrn cefn.
HYROX Mae ein dosbarthiadau HYROX yn sesiwn fydd yn codi curiad eich calon ac yn cynnwys symudiadau swyddogaethol. Mae’r ymarfer yma yn mynd i wella eich ffitrwydd cardiofasgwlaidd trwy gwneud ymarferion dwysedd uchel a rhedeg. Bydd hefyd yn cryfhau eich cyhyrau trwy wneud symudiadau swyddogaethol. Bydd y dosbarth yma yn eich paratoi tuag at cystadleuaethau HYROX
Effaith Metabolig Mae dosbarth Effaith Metabolig yn ymarfer dwysedd uchel, yn defnyddio pwysau (dumbells) i gael effaith metabolig da ar y corff. Bydd yr hyfforddwr yn eich gweithio yn galed ac mae modd i chi orffwys pan fyddwch angen.
Acwa Mae aerobeg dŵr yn cynnig nifer o fanteision. Mae'r ymarfer effaith isel hwn yn gwella ffitrwydd cardiofasgwlaidd, cryfder a dygnwch wrth hyrwyddo hyblygrwydd a chydbwysedd. Mae gwrthiant y dŵr yn helpu i adeiladu tôn cyhyrau heb bwysau, ac mae effaith oeri'r dŵr yn atal gorboethi, gan wneud ymarferion yn fwy cyfforddus.
Boxercise Mae dosbarth Boxercise yn llawn egni ac yn defnyddio technegau ymarfer sydd yn cael ei defnyddio gan bocswyr. Cewch ddysgu ac ymarfer sut i ddyrnu fel ‘jabs’, ‘hooks’ a ‘uppercuts’. Mae Boxercise yn ymarfer dwysedd uchel fel HIIT ac yn siŵr o godi curiad y galon. Gyda cymysgedd o ymarferiadau cryfder a dygnwch i dargedu gwahanol cyhyrau y corff. Mae’n ffordd dda o lleihau straen a phryder, drwy rhyddau endorffinau. Ymarfer effeithiol i golli pwysau, tonio’r corff, gwella cydsymud llaw a llygad (hand-eye coordination) a sgiliau echddygol (motor skills). Mae Boxercise yn ymarfer gwych a hwyliog ar gyfer y corff gyfan
Body Blast Mae dosbarth Body Blast yn Cyfuniad o Gryfder, Dwysedd uchel a Cardio sydd yn targedu y corff gyfan. Mae’r dosbarth yma yn debyg iawn i HIIT - yn llosgi calorïau a gwella eich ffitrwydd cyffredinol. Dosbarth addas ar gyfer dwysedd Canol i Uchel


 

Cysylltwch â Ni

Os hoffech wybod rhagor am ein dosbarthiadau ffitrwydd neu os hoffech archebu lle ar gyfer sesiwn profiadol, cysylltwch â ni heddiw cyswllt@bywniach.cymru. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’n cymuned iach ac actif!

Archebwch dros y ffon: Cysylltwch

Archebwch ar lein: Archebu

Ap Byw'n Iach

Cynlluniwch eich ymweliad gyda ni drwy archebu sesiwn drwy'r ap.

Cadwch eich hoff sesiynau mewn un lle

Daliwch i fyny gyda'r Newyddion, cyhoeddiadau a hyrwyddiadau diweddara!

Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein ap yn rhad ac am ddim! Llwytho i lawr heddiw.

Babi Actif

Blynyddoedd cynnar gyda rhieni,
a mamau beichiog cymraeg

Plant Actif

Plant oed cynradd
a’u rhieni

Pobl Ifanc Actif

Pobl ifanc
rhwng 11-24

Gall Genod

Merched a merched
o bob oed

Actif Am Oes

Ffitrwydd dwysedd isel
a chwaraeon i bob oed