Plymio
Yn Byw’n Iach Bangor, rydym yn cynnig profiadau deifio unigryw i bobl o bob gallu.
Mae Byw’n Iach Bangor yn cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf i’r rheiny sy’n caru chwaraeon dŵr a chyffro. Rydym yn falch o gyflwyno ein byrddau plymio sy’n amrywio o uchderau 1m, 3m, i 5m. Wedi’u cynllunio ar gyfer plymwyr o bob lefel, mae ein byrddau yn cynnig profiad diogel a llawn hwyl, boed yn ddechreuwr neu’n athletwr profiadol. Dewch i fwynhau’r cyffro a’r antur yn ein pwll modern, gyda staff hyfforddedig ar gael i gynnig cyngor a chefnogaeth.
Ein Cyfleusterau
- Byrddau plymio 1m, 3m a 5m
- Prif bwll 25m x 12.5m (dyfnder 1.4 – 3.8m)
- Peiriant swigod plymio
Plymio Cyhoeddus
Mae sesiynau plymio cyhoeddus ar gael ar amserlen y ganolfan, dilynwch y linc yma am fwy o wybodaeth: Amserlen Pwll Nofio Bangor
Gwersi Plymio
Mae sesiynau gwersi nofio cyhoeddus ar gael ar amserlen y ganolfan, dilynwch y linc yma am fwy o wybodaeth: Amserlen Pwll Nofio Bangor
Pam Dewis Byw’n Iach Bangor?
- Hyfforddwyr Cymwys: Mae ein tîm o hyfforddwyr profiadol a chymwys yn angerddol am rannu eu gwybodaeth a’u cariad at ddeifio.
- Cyfleusterau Penigamp: Mwynhewch ein cyfleusterau modern sy’n cynnig y cyfan sydd ei angen arnoch ar gyfer sesiwn ddeifio lwyddiannus a diogel.
- Lleoliad Bendigedig: Lleolir ein canolfan yng nghalon gogledd Cymru, yr unig gyfleusterau plymio sydd i gael yn Gogledd Cymru.
Ymunwch â Ni Heddiw!
Am restr llawn o brisiau, dilynwch y linc yma: Prisiau
Os ydych chi’n chwilio am antur newydd neu’n dymuno gwella’ch sgiliau presennol, cysylltwch â ni heddiw i archebu eich lle ar un o’n cyrsiau deifio. Mae croeso i bob lefel a gallu: Cysylltwch â Ni