Dewis Iaith:

Byw'n Iach Bangor

Mae Byw’n Iach Bangor yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau ffitrwydd.

Nofio yw ffocws allweddol y safle. Gyda dau bwll nofio, bwrdd plymio 1m, byrddau 3m a llwyfan 5m (yr unig un yng Ngogledd Cymru). Rydym hefyd yn cynnig gwersi nofio i blant ac oedolion, yn ogystal ag ystod o wersi deifio.

Gyda’r dechnoleg ddiweddaraf i helpu i wella technegau deifio a diogelwch nofio, rydych yn siwr o fwynhau eich profiad nofio yn Byw’n Iach Bangor.

Mae gennym hefyd Ystafell Ffitrwydd gydag amrywiaeth o beiriannau ffitrwydd Pulse, beiciau Wattbike a phwysau rhydd.

Mae gennym ni 2x gwrt pêl-droed allanol 5 bob ochr gydag AstroTurf 3G.

Find our centre

Ffordd Y Garth,
Bangor,
Gwynedd
LL57 2SD

+

Neges i Cwsmeriaid

O 3ydd o Fawrth, bydd gwaith yn cychwyn ar faes parcio Byw’n Iach Bangor, bydd y gwaith yn para am tua 3 mis. Rydym yn annog ein cwsmeriaid i barcio yn gall, rhannu ceir, neu ddefnyddio mannau gollwng oherwydd niferoedd parcio cyfyngedig.

Ni fydd nofio cyhoeddus rhwng 10:00-15:00 ar Ddydd Mercher 12/03/25 oherwydd archeb pwll preifat.

Mae lifft wedi cael ei roi mewn ar y grisiau yn Byw’n Iach Bangor. Bydd staff yn hapus i helpu cwsmeriaid i ddefnyddio’r lifft newydd. Diolch am eich amynedd.
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleuster.

Ap Byw'n Iach

Cynlluniwch eich ymweliad gyda ni drwy archebu sesiwn drwy'r ap.

Cadwch eich hoff sesiynau mewn un lle

Daliwch i fyny gyda'r Newyddion, cyhoeddiadau a hyrwyddiadau diweddara!

Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein ap yn rhad ac am ddim! Llwytho i lawr heddiw.

Babi Actif

Blynyddoedd cynnar gyda rhieni,
a mamau beichiog cymraeg

Plant Actif

Plant oed cynradd
a’u rhieni

Pobl Ifanc Actif

Pobl ifanc
rhwng 11-24

Gall Genod

Merched a merched
o bob oed

Actif Am Oes

Ffitrwydd dwysedd isel
a chwaraeon i bob oed