Nofio

Yn wahanol i chwaraeon eraill, mae nofio yn ymgysylltu â phob grŵp cyhyrau a system egni! Mae nofio yn gwella hyblygrwydd, ystod o symudiadau, a chryfder swyddogaethol yn y dŵr. Mae hyn yn arwain at gryfder craidd gwell a sefydlogrwydd symudol yn eich holl gymalau, yn ogystal â chyhyrau cryfach a gwell sgiliau echddygol.
Mae Byw’n Iach yn cynnig amrywiaeth o sesiynau nofio ar draws y sir, mewn 7 canolfan wahanol; Arfon, Bangor, Glaslyn, Dwyfor, Bro Ffestiniog, Penllyn a Bro Dysynni.
Gwersi Nofio Plant Rydym yn dilyn Fframwaith Dysgu Nofio Cymru er mwyn cynnig gwersi nofio i ansawdd uchel a phroffesiynol i blant Gwynedd. Mae gennym hyfforddwyr gyda chymwysterau SEQ lefel uchel ac maent yn mynychu hyfforddiant parhaus. Felly, gallwch fod yn hyderus y bydd eich plentyn yn cael hyfforddiant rhagorol. Mae ein gwersi nofio yn gwneud yn siŵr fod POB plentyn yn dysgu nofio gwaeth be yw eu gallu, na’u hanghenion. Mae’r gwersi nofio ar gael mewn 7 canolfan: Arfon, Bangor, Bro Dysynni, Bro Ffestiniog, Dwyfor, Glaslyn, Penllyn Dyma becyn gwybodaeth ar gyfer y gwersi nofio sydd yn cael ei gynnig yn Byw’n Iach: Pecyn Gwersi Nofio Gwersi Oedolion O’r holl sgiliau bywyd sy’n werth eu dysgu, mae nofio yn un o honnynt. Nid yn unig y gallai achub eich bywyd, ond mae’n wych i helpu eich lles corfforol a meddyliol. Byddwch chi’n synnu pa mor hawdd â hwyl yw nofio ar ôl i chi ddechrau! Dyma becyn gwybodaeth am fframwaith y gwersi nofio: Pecyn Gwybodaeth Gwersi Nofio i plant gydag Anghenion Ychwanegol Mae ein gwersi nofio i blant ag anghenion ychwanegol yn ddosbarthiadau o grwpiau bach (mwyafrif o 4) yn rhoi cyfle i’r athro addasu’r wers fel bod pawb yn cael y cyfle i ddysgu a datblygu. Mae ein hathrawon yn ymwybodol fod pawb angen cael eu trin fel unigolyn ag bod anghenion gwahanol i ddysgu nofio. Mae yn bosib i riant fynd i’r dŵr i gefnogi’r plentyn os oes angen. Mae ein hathrawon yn dysgu sut i symud yn y dŵr a sgiliau cyd-symud sydd yn helpu gyda sgiliau corfforol tu allan i’r pwll. Rydym yn canolbwyntio ar allu’r plentyn ag rhoi dewis a chyfle iddynt i ddatblygu drwy chwarae, yn ogystal â chanolbwyntio ar y sgiliau craidd o ddysgu nofio. Er mwyn i athrawon lwyddo mae yn hanfodol ein bod yn cael gymaint o wybodaeth a phosib am y plentyn. Nodwch unrhyw anghenion sydd gennych yn nerbynfa’r canolfan, a byddwn yn trin y wybodaeth hon yn gyfrinachol. Gwelwch pryd mae’r sesiwn yn eich canolfan yma: Amserlen
Lansiwyd Nofio Am Ddim am y tro cyntaf yng Nghymru yn 2003. Hon oedd y rhaglen nofio am ddim genedlaethol gyntaf yng Nghymru. Y nod? Cael mwy o bobl ifanc (16 oed ac iau) a phobl dros 60 oed i ddysgu nofio a nofio’n fwy rheolaidd.
Gwersi Nofio
Nofio Am Ddim