Dewis Iaith:

Cerdyn Max

Cerdyn Max

Beth yw Cerdyn Max?

Y Cerdyn Max yw prif gerdyn disgownt y DU ar gyfer teuluoedd maeth a theuluoedd plant ag anghenion ychwanegol. Gall teuluoedd ddefnyddio eu Cerdyn Max mewn lleoliadau ledled y DU i gael mynediad am ddim neu am bris gostyngedig.

Mae’r cynllun wedi’i gynllunio i helpu teuluoedd i arbed arian ar ddiwrnodau allan gwych. Nod y cynllun yw darparu ymdeimlad o gymuned trwy ysgogi profiadau dysgu a diwrnodau allan pleserus i bawb.

Mae’r Cerdyn Max ar gael i deuluoedd maeth a theuluoedd sydd â phlentyn anabl. Gwnewch gais am eich cerdyn yma: Cerdyn Max

Be fedrai neud yn Ganolfannau Byw’n Iach efo Cerdyn Max?

Sesiwn Nofio Teulu

Sesiwn ar gyfer oedolyn a phlentyn i fwynhau defnyddio’r pwll, gwella sgiliau nofio neu jest cael y buddion o nofio efo’i gilydd.

I cadw yn ddiogel yn ystod yr amser yma, bydd pob teulu’n cael defnydd personol/unigryw o ran o’r pwll nofio am 45munud.

Mae trefniadau Cofid Diogel ar waith ym mhob canolfan i ddiogelu ein cwsmeriaid – fwy a manylion:

Dychwelyd i’ch Canolfan Byw’n Iach

Cost: Am ddim i Deuluoedd sydd a cerdyn Max

Telerau ac Amodau

Bydd angen i’r oedolyn sydd yn bwcio fod yn aelod Byw’n Iach (aelodaeth yn cychwyn o £11.20 y flwyddyn, ac ar gael trwy ffonio eich canolfan lleol), rhaid bwcio pob sesiwn nofio o flaen llaw trwy ffonio’r ganolfan lleol; ystafelloedd ar gael ar gyfer defnydd cwsmeriaid anabl ond rhaid bwcio lle yr un pryd a bwcio sesiwn nofio; fel arall bod angen cyrraedd yn barod ar gyfer y pwll (manylion pellach).