Cerdyn Rhagoriaeth Byw’n Iach
Mae’r cynllun yn cynnig mynediad i gyfleusterau hamdden Cwmni Byw’n Iach.cyf at ddibenion hyfforddi.
Grantiau Ymddiriedolaeth Cofio Robin. Dyddiad Cau 30/09/24, am fwy o wybodaeth, dilynwch y linc: Gwefan Cofio Robin
Ffurflen Gais Cerdyn Rhagoriaeth
Beth yw Manteision Meddu ar Gerdyn Rhagoriaeth Byw'n Iach?
Mynediad am ddim i rai gweithgareddau yng nghyfleusterau Canolfannau Byw’n Iach Gwynedd:
- Nofio yn ystod sesiynau cyhoeddus.
- Mynediad i’r Ystafelloedd Ffitrwydd/ Pwysau yn ystod sesiynau cyhoeddus. (Defnydd yn ddibynnol ar delerau defnydd arferol y ganolfan ar gyfer pobl ifanc. Mae’n bosib i athletwyr Cerdyn Rhagoriaeth gofyn am asesiad unigol er mwyn ehangu eu defnydd o offer).
- Dosbarthiadau Ffitrwydd (llefydd gwag h.y. dim hawl i bwcio o flaen llaw)
- Gweithgaredd sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â’ch chwaraeon (e.e. chwaraewr sboncen yn medru cael defnydd o Gyrtiau Sboncen / pan fydd lle ar gael h.y. dim hawl i bwcio o flaen llaw )
Beth yw'r Meini Prawf
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr fyw yng Ngwynedd.
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn aelod cyfredol o Garfan GENEDLAETHOL Corff Llywodraethu Chwaraeon Cymraeg neu Brydeinig.
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr nad oes gan eu chwaraeon Sgwad Genedlaethol, fod wedi gorffen yn gyntaf, ail neu’n drydydd mewn pencampwriaeth Cymraeg neu Brydeinig, wedi’i drefnu gan gorff llywodraethu cenedlaethol y chwaraeon (Nid cystadlaethau’r Urdd na chystadlaethau ysgolion cenedlaethol) yn ystod y 12 mis diwethaf.
- Mae’n rhaid bod Corff Llywodraethu eich chwaraeon yn cael ei gydnabod gan Chwaraeon Cymru.
Beth yw'r Proses o Wneud Cais?
- Gwiriwch y canllawiau hyn i sicrhau eich bod yn bodloni’r meini prawf.
- Llenwch y ffurflen gais atodol.
- Mae’n rhaid i chi anfon y canlynol efo’ch ffurflen gais –
- Llun pasbort diweddar
- Cost £10.00 yn daliadwy ar lein neu gyda cherdyn debyd neu gredid ar eich ymweliad cyntaf ir ganolfan. (ar gyfer costau gweinyddol). Dylai’r ffurflen gael ei e-bostio at:
alunjones2@bywniach.cymru
Os bydd y meini prawf perthnasol yn cael eu bodloni, bydd cerdyn yn cael ei gynhyrchu a’u hel atoch, fel arfer o fewn 1 mis.
Beth yw'r telerau a'r amodau
- Mae’n rhaid i ddeilydd y cerdyn gydymffurfio â’r rheolau a’r rheoliadau sy’n gysylltiedig â defnyddio’r cyfleusterau. Os bydd cerdyn yn cael ei gamddefnyddio, bydd Byw’n Iach.cyf yn cadw’r hawl i ddiddymu’r Cerdyn Rhagoriaeth.
- Ni ellir trosglwyddo’r Cerdyn Rhagoriaeth.
- Mae’n rhaid i’r Cerdyn gael ei gyflwyno i’r dderbynfa bob tro y bydd deilydd y cerdyn yn ei ddefnyddio, neu bydd rhaid i’r deilydd dalu’r ffi lawn.
- Dim ond at ddibenion hyfforddi personol y gellir defnyddio’r cerdyn. Ni ddylid defnyddio’r cerdyn ar gyfer canolfannau datblygu/rhagoriaeth, sgwadiau neu hyfforddiant sefydliad preifat i leihau’r costau i eraill.
- Ni chaniateir archebu cyfleusterau na dosbarthiadau o flaen llaw.
- Mae’r cerdyn yn ddilys am 12 mis o’r dyddiad y caiff ei gyhoeddi. I wneud ail gais, bydd rhaid llenwi ffurflen gais newydd.
- Mae gan Cwmni Byw’n.cyf Iach yr hawl i rannu gwybodaeth am ddeilyddion y Cerdyn Rhagoriaeth fel rhan o’i ymgyrchoedd marchnata e.e. trwy’r Wefan, trwy Cyfrifon Cyfryngau Cymdeithasol neu yn y Wasg
- Mi fydd Gwmni Byw’n Iach.cyf yn rhannu gwybodaeth yr ymgeiswyr gyda’r Corff Llywodraethu a nodir yn y cais er mwyn prosesu ceisiadau.
- Mi fydd Cwmni Byw’n Iach.cyf yn cadw gwybodaeth a rhennir gyda’r cais ar system cyfrifiadurol y cwmni er mwyn galluogi mynediad i gyfleusterau.
Mae manylion llawn o ran y ffordd mae’r cwmni’n rheoli data i weld ar ein gwefan: www.bywniach.cymru
Cyfyngiadau
- Mae cyfyngiadau o ran oed yn berthnasol ar gyfer rhai cyfleusterau a gweithgareddau.
- Bydd rhaid trefnu sesiwn anwytho ar gyfer rhai o’r cyfleusterau (e.e. Ystafelloedd Ffitrwydd) a bydd angen talu am hyn ar wahân.
- Caniateir defnydd ar ddisgresiwn rheolwr y ganolfan
Pwy sydd ar y cynllun?
- Morgan Wynne Davies
- Sam Booth
- Steffan Rhys Winrow
- Helen Pickett
- Alison Shepherd
- Nick Thomas
- Catherine Elin Roberts
- Huw Ifan Davies
- Steffan Elgan Williams
- Jac Lloyd Crockett
- Ania Denham
- Daniel Pigott
- Dylan William Davies
- Gruff Rhys
- Danielle Jasmine Bowyer
- Erin Mair Lauder
- Leon Jac Lauder
- Saran Mair Jones
- Katie Cranwell
Ffurflen Gais Cerdyn Rhagoriaeth