Mae cofrestru ar ein Cynllun Corfforaethol yn rhoi hawl i bob aelod o staff eich cwmni brynu Pecyn Aelodaeth Holl Gynhwysol, trwy drefn Debyd Uniongyrchol, am bris gostyngedig Ffioedd Byw’n Iach. Mae’r Pecyn yn caniatáu i weithwyr gael defnydd diderfyn o ganolfannau Byw’n Iach ar draws Gwynedd.
Mae ffi weinyddol yn daladwy gan gyflogwyr sydd a llai na 5 o staff yn rhan o’r cynllun. Mae’r cynllun yn rhad ac am ddim i bob cyflogwr fel arall.
I ddysgu mwy am fanteision dod yn rhan o’r cynllun a sut mae’r cynllun yn gweithio cliciwch: Yma
Yn rhan o’r pecyn corfforaethol, bydd y canlynol ar gael i chi:
Os bydd llai na 5 o staff yn ymaelodi, bydd ffi flynyddol yn daladwy gan y cyflogwr er mwyn fod yn aelod o’r cynllun. Yn 23/24 y ffi fydd £150 ac mi fydden ni yn eich hysbysu chi os fydd codiad yn y ffi at y dyfodol. Mi fydden ni’n yn eich hysbysu chi 12 mis ar ôl i chi gwblhau’r cytundeb cychwynnol a phob blwyddyn olynol. Gall methiant i dalu’r ffi yn amserol arwain at rewi pecynnau aelodaeth eich staff.
Os bydd 5 aelod o’ch staff, neu fwy, wedi bod yn aelod o’r cynllun ar unrhyw adeg yn ystod y 12 mis blaenorol ni fydd ffi yn cael ei godi ar y cwmni. Mi fydd staff perthnasol yn parhau i elwa o’r pris gostyngedig.
Bydd rhaid i’ch aelodau staff ddangos slip cyflog diweddar wrth ymaelodi a bydd angen iddynt nodi eu rhif tal ar ein ffurflen aelodaeth debyd uniongyrchol. Byddwn yn anfon rhestr o aelodau cyfredol eich cwmni yn flynyddol i chi er mwyn gwirio fod pob unigolyn yn parhau i weithio i’ch cwmni ac felly yn gymwys ar gyfer y disgownt. Mae ein ffurflen aelodaeth yn gofyn i unigolion rhoi caniatâd i ni rannau eu data yn y modd hwn, ac yn rhoi gwybod iddyn nhw am ein polisi preifatrwydd Yma
Dyma’r Cyflogwyr sydd eisoes yn aelodau o Gynllun Corfforaethol Byw’n Iach: