Rydym mor falch o’r tîm am gael ein cydnabod yng Ngwobrau Blynyddol Nofio Cymru 2024/25! Drwy gydweithrediad rhwng timau Plas Menai a Byw’n Iach, rydym wedi ennill Gwobr Effaith Nofio a Diogelwch Dŵr Ysgol Nofio Cymru am gyflwyno’r cynllun Nofio Diogel Cymru yn effeithiol yn y ganolfan ac ar draws Gogledd Cymru.
Mae hyn yn dyst i waith caled y tîm, gan gynnwys Dyfed, Tom, Ollie a Gavin, ynghyd â mewnbwn amhrisiadwy y ddau dîm. Cynhaliwyd y sesiynau ar gyfer rhai Ysgolion Cynradd Gwynedd, gan gynnwys Ysgol Godre’r Berwyn, Ysgol O.M Edwards, Ysgol Bro Idris, a Ffridd y Llyn yn Glan Llyn. Cafodd Ysgol Hirael, Ysgol Hendre, a Ysgol Gwaun Gyfni yn Plas Menai, a Plas Heli cafodd Ysgol Cymerau a Ysgol Yr Eifl fanteisio ar y cynllun.
Dywedodd Justin Everley, Pennaeth y Ganolfan yn Plas Menai:
Mae’r cynllun yn cael ei reoli’n genedlaethol gan yr RNLI a Nofio Cymru i ddysgu sgiliau hanfodol i bobl ifanc ar sut i gadw’n ddiogel mewn dŵr agored. Trwy ymdrechion Legacy Leisure, Byw’n Iach a’r Urdd, cafodd y sesiynau eu darparu yn rhad ac am ddim i’r ysgolion.
Diolch yn fawr i’r holl ysgolion a staff a fynychodd, yn ogystal â’n partneriaid gwych am eu cefnogaeth. Rydym yn dîm hapus iawn!
Ein bwriad yw ail-gydio yn y prosiect dros y misoedd nesaf a rhoi cyfle i griw newydd o blant i ddysgu sgiliau diogelwch dŵr agored. Cadwch lygad allan ar ein cyfryngau cymdeithasol!