Dyma gynllun sydd yn sicrhau bod cyfleusterau hamdden o ansawdd mewn safleoedd ar draws Prydain.
Llynedd fe lwyddodd Byw’n Iach Dwyfor, ac eleni roedd hi’n gyfle i Byw’n Iach Bangor cael ei asesu.
Derbyniwyd adroddiad gyda dyfarniad “Da” o ran ymweliad gan Ymwelydd Dirgel a hefyd ymweliad yr Aseswr Swyddogol. Mae’r adroddiad a dderbynnir yn llawn canmoliaeth cadarnhaol yn ogystal ag argymhellion ar sut y gallwn barhau i datblygu. Mae nifer o ddatblygiadau newydd ar y ffordd yn Mangor yn cynnwys adnewyddu yr ystafelloedd newid.
Diolch yn fawr i’r Rheolwr Ardal, Mark Williams a’i dim gweithgar yn Byw’n Iach Bangor am yr holl waith caled yn ystod y broses faith. A diolch i’r cyhoedd am eu cefnogaeth i’r ganolfan bob amser.
Mae’n braf iawn darllen adborth cadarnhaol yn yr adroddiad a gallu derbyn newyddion braf fel hyn i rannu gyda’r cyhoedd.
Am fwy o wybodaeth am y cynllun Quest, dilynwch y linc: Gwefan Quest