Yn ystod wythnos atal boddi eleni, rhwng Mehefin 19eg a Mehefin 25ed cafodd Byw’n Iach y cyfle i gydweithio gyda Chanolfan Awyr Agored Plas Menai ac Academi Chanolfan Ddigwyddiadau a Hwylio Plas Heli ym Mhwllheli i gynnal sesiynau Swimsafe i rai o blant blwyddyn 6 yn ardal Arfon a Dwyfor.
Mae Swimsafe wedi bod yn gynllun poblogaidd i blant rhwng 7 a14 oed ers sawl blwyddyn , ac mae’n rhoi’r cyfle i blant gymryd rhan mewn Sesiwn/gwersi nofio i ddysgu am ddiogelwch dŵr mewn dŵr agored.
Gan fod yna nifer uchel o ddigwyddiadau ac achubion mewn dŵr agored, a bod gan Gwynedd yn sir sydd wedi lleoli gyda’i ran helaeth ar arfordir Cymru ein prif nod ar gyfer y sesiynau oedd dysgu sgiliau hanfodol i blant fel bod ganddyn nhw’r gallu i gadw ei hunain yn ddiogel yn dŵr.
“Diolch i Byw’n Iach am drefnu sesiynau Diogelwch y Dŵr ym Mlas Menai i’n ddisgyblion blwyddyn 6. Roedd pawb wedi mwynhau’n arw ac wedi dysgu llawer o sgiliau hanfodol o sut i gadw yn ddiogel yn ddŵr agored”
Cafodd naw sesiwn ei chynnal yn ystod yr wythnos, gyda dau ddiwrnod ym Mhlas Menai a dau ym Mhlas Heli. Roedd athrawon nofio o ganolfannau Byw’n Iach Arfon, Caernarfon, Byw’n Iach Bangor a Byw’n Iach Dwyfor, Pwllheli yn rhoi cymorth yn ystod y sesiynau, ac yn gweithio yn agos gyda hyfforddwyr o Blas Menai. Fe wnaeth y sesiynau brofi ym mhoblogaidd, gyda 148 o blant yn mynychu ar draws y naw sesiwn, o 7 o’r ysgolion lleol.
“Roedd y sesiwn SwimSafe yn wych. Cafodd y disgyblion llawer o hwyl yn dysgu sut i gadw’n ddiogel gyda staff brwdfrydig iawn. Pob un o’r plant wedi mwynhau! Sesiwn pwysig iawn!”
Diolch i staff Plas Menai, Plas Heli a Byw’n Iach am gynnal sesiynau i’r plant lleol!