Mae Byw’n Iach yn falch i gyhoeddi bod ni wedi partneru gyda Wellness Walks ag Y Bartneriaeth Awyr Agored i gynnig teithiau cerdded lles yng Ngwynedd, a rydym yn chwilio am wirfoddolwyr!
Menter gymdeithasol ydi Wellness Walks sydd yn cynnig teithiau cerdded lles i gymunedau ar draws Prydain.
Yn dilyn llwyddiant ysgubol eu cynllun hyfforddi Arweinwyr Gwirfoddoli Cerdded Lles cyntaf yng Ngwynedd y llynedd – rydym nawr yn recriwtio eto ar gyfer 8 person gwych arall a hoffai ymuno â’r tîm.
Mae’r cynllun hwn yn agored i unrhyw un sy’n byw yng Ngwynedd ac a hoffai gael eu hyfforddi a’u cefnogi i ddarparu Teithiau Cerdded Lles yn eu cymuned .
A’r darn gorau? – mae lleoedd ar y cynllun hwn wedi’u hariannu’n llawn – does dim cost i chi – i’r ymgeiswyr llwyddiannus rydym yn mynd i gyflenwi’r holl hyfforddiant, cymwysterau ac offer diogelwch – byddwn hefyd yn codi’r costau ymlaen ac yn parhau i’ch cefnogi – rydym am weld Teithiau Cerdded Lles ar gael i gynifer o bobl â phosib yng Ngwynedd.
Ydych chi hefo ddiddordeb mewn darparu teithiau cerdded llesiant i’ch cymuned leol?
Mae’r wybodaeth yn llawn yma: Mwy o Wybodaeth
Ymgeisiwch rŵan!
Mae ceisiadau ar agor; ewch i wefan Wellness Walks i wneud cais: Wellness Walks