Achrediadau sydd yn cael eu cynnig gan Anabledd Chwaraeon Cymru yw Insport.
I gyflawni safon efydd, rydym wedi cyflwyno tystiolaeth yn amlygu ein bod yn datblygu cyfleoedd cynhwysol ar draws ein darpariaeth hamdden a chwaraeon drwy Wynedd gyfan.
Mae’r Panel Insport wedi nodi fod Byw’n Iach yn llwyddo i sicrhau bod cynhwysiant yn naturiol ym mhob cam o waith ynghyd ag arddangos yr ymddygiadau angenrheidiol i roi diwylliant cynhwysol ar waith ar draws y ganolfannau hamdden, hybiau cymunedol a phob math o weithgareddau yr ydym ynghlwm gydag ef, ynghyd a sicrhau bod staff yn cwblhau hyfforddiant cynhwysiant anabledd.
Erbyn hyn mae 81% o’r staff wedi mynychu hyfforddiant DIT (Disability Inclusion Training) a mwy o gyrsiau ar y gweill i gymhwyso fwy o staff
Mae ein cynllun marchnata a chyfathrebu yn cynnwys datblygiadau i’r wefan, fel bod unrhyw un sydd gyda anableddau yn gallu ei ddefnyddio. Hefyd wedi ei nodi yn y cynllun mae ein bwriad i hyrwyddo gwybodaeth am yr holl gyfleoedd sydd i bobl anabl a hynny mewn un lle canolog ar y wefan.
Dyma oedd gan y Panel i ddweud “Bydd Chwaraeon Anabledd Cymru yn parhau i gefnogi Byw’n Iach i gyflawni eu blaenoriaethau lleol, a gyda chynhwysiant yn cael ei wreiddio yn niwylliant Byw’n Iach, bydd y cyfrifoldeb a’r weledigaeth hon, sef bod cynhwysiant yn rôl pawb, yn cynnig cyfle yn hytrach na her.”
Dywedodd llefarydd ar ran Byw’n Iach “Rydym yn falch iawn fod y gwaith da o ddydd i ddydd yn cael ei gydnabod gan Anabledd Chwaraeon Cymru. Rydym am symud ymlaen yn syth i gychwyn gweithio tuag at y safon Arian a chyflwyno hyd oed mwy o gyfleodd cynhwysol i’n cymunedau lleol.”