Dewis Iaith:

Gweithgareddau Cost Isel

Gweithgareddau Cost Isel

Mae Byw’n Iach yn cynnig llawer o weithgareddau cost isel ac am ddim ar draws ein canolfannau!

Gweithgareddau:

Nofio Am Ddim

Lansiwyd Nofio Am Ddim am y tro cyntaf yng Nghymru yn 2003. Hon oedd y rhaglen nofio am ddim genedlaethol gyntaf yng Nghymru. Y nod? Cael mwy o bobl ifanc (16 oed ac iau) a phobl dros 60 oed i ddysgu nofio a nofio’n fwy rheolaidd. 

  • Nofio Am Ddim 0 – 16 oed – sesiynau nofio am ddim i blant dan 16 yn ystod penwythnosau, heblaw am sesiwn Bro Ffestiniog sydd ar Nos Fawrth. Mae hefyd sesiynau ychwanegol am ddim ar gael yn ystod gwyliau’r haf.  Bydd angen Tocyn Aelodaeth Blynyddol Byw’n Iach i fynychu sesiynau nofio am ddim. Cysylltwch a’r ganolfan leol er mwyn trefnu hyn. 
  • Nofio am ddim 60+ – Gall cwsmeriaid dros 60 oed, sy’n byw yng Nghymru, nofio yn unrhyw un o’n pyllau nofio am ddim yn ystod sesiynau nofio penodol. Rhaid i chi gael yr aelodaeth flynyddol i gael mynediad i’r sesiynau am ddim 60+. 
  • Nofio am Ddim trwy’r Cerdyn Max – Byddwn yn darparu mynediad am ddim i sesiynau nofio teulu yn ein pyllau i deuluoedd sydd a Cherdyn Max. Bydd angen i un oedolyn yn y teulu fod yn aelod o Byw’n Iach er mwyn i’r teulu cael nofio am ddim. Pan fydd y cwsmeriaid yn ffonio i archebu lle, rhaid gwneud y canlynol. Rhagor o wybodaeth ar y wefan yma: Gwefan Cerdyn Max 
  • Nofio am Ddim ar gyfer Gofalwyr Ifanc – Byddwn yn darparu mynediad am ddim i sesiynau nofio cyhoeddus i’r Gofalwr + 1 ffrind neu aelod teulu. 
  • Nofio am Ddim ar gyfer Cyn-filwyr – Byddwn yn darparu mynediad am ddim i sesiynau nofio yn ein pyllau i unrhyw un sydd hefo cerdyn DDS a Defence Privilege Card. 

I weld pryd mae’r sesiynau yma ar gael, ewch i amserlen eich ganolfan lleol: Canolfannau


Babi Actif

Mae’r sesiynau Babi Actif yn cynnwys:

  • Nofio Swigod
  • Chwarae Meddal
  • Gymnasteg Babi Actif

Am fwy o wybodaeth, dylwch y linc yma: Mwy o wybodaeth

Gwyliau ysgol

Yn ystod yr gwyliau ysgol, mae Byw’n Iach yn cynnig nifer o gweithgareddau i phlant a pobl ifanc. Yn ystod gwyliau’r eleni dyma beth sydd ar gael:

  • Chwarae Meddal 0-5 oed
  • Sesiynau Chwarae i Blant gyda Anghenion Arbennig
  • Mynediad i Ddosbarthiadau Ffitrwydd y Prif Raglen i blant 11-18oed
  • Camp Chwaraeon Mawr
  • Camp Chwaraeon Bach
  • Nofio Cyhoeddus

Rydym yn ceisio denu grantiau er mwyn lleihau costau neu cynnig gweithgareddau am ddim. Mae’r cynnig yn medru amrywio o bryd i’w gilydd felly mae angen dilyn ein cyfryngau cymdeithasol i dderbyn y cynnigion diweddaraf.

Gerddi Cymunedol

Mae Byw’n Iach wedi ddatblygu gerddi cymunedol yn sawl canolfan ar draws y sir ac mae pawb yn croeso i’w ddefnyddio unrhyw dro am ddim! Mae rhain ar gael yn:

  • Byw’n Iach Dwyfor, Pwllheli
  • Byw’n Iach Arfon, Caernarfon
  • Byw’n Iach Plas Ffrancon, Bethesda
  • Byw’n Iach Plas Silyn, Penygroes
  • Byw’n Iach Glaslyn, Porthmadog

Mae’r gerddi yn le perffaith i cymdeithasu, plannu, pigo ffrwythau a llysiau neu chael picnic fel teulu! Bydd yr amser yn yr awyr agored hefyd yn dda at iechyd meddwl.

Cynllun Chwarae Allan

Dros y Gwyliau ysgol, mi fydd Byw’n Iach yn caniatáu i blant a phobl ifanc lleol defnyddio cyrtiau a chaeau tu allan yn rhad ac am ddim yn ystod oriau agor y ganolfan a thu allan i sesiynau sydd wedi cael eu llogi gan gwsmeriaid. Dyma beth sydd ar gael:

  • Byw’n Iach Plas Ffrancon, Bethesda (Cae synthetig)
  • Byw’n Iach Bangor (Cae 5 pob ochr)
  • Byw’n Iach Arfon, Caernarfon (Cae synthetig, chyrtiau tenis a pêl fasged)
  • Byw’n Iach Plas Silyn, Penygroes (Cae synthetig)
  • Byw’n Iach Dwyfor, Pwllheli (Cae synthetig, chyrtiau tenis)
  • Byw’n Iach Glaslyn, Porthmadog (Cae 5 pob ochr, chyrtiau tenis)
  • Byw’n Iach Glan Wnion, Dolgellau (MUGA)
  • Byw’n Iach Bro Dysynni, Tywyn (Cae synthetig, chyrtiau tenis)

Mi fydd ychydig o offer sylfaenol hefyd ar gael i fenthyg os bydd angen e.e. racedi tenis a pheli.

Mae croeso i rieni a gwarchodwyr chwarae gyda’u plant a fydden ni’n cydweithio gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid a’r Heddlu i drefnu digwyddiadau o dro i dro.

Pecynnau a thocynnau:

Mae sawl ffordd i arbed arian wrth defnyddio’r canolfannau. Mae’r Cerdyn Byw’n Iach ar gael i brynu’n flynyddol ac yn cynnig pris is ar gyfer pob ymweliad. Mae’r cerdyn ar gael am ddim i blant a phobl ifanc hyd at 16 oed.  

Mae prisiau consesiwn ar gael ar gyfer pobl anabl, pobl dros 60 oed a pobl ifanc rhwng 16-24 oed. 

Mae’r Tocyn Teulu yn cynnig arbennig i deuluoedd ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau ac yn cynnig cyfle i’r teulu gyfan nofio a mwynhau chwaraeon raced yn ystod eu ymweliad.