Dewis Iaith:

Llwybrau Ffitrwydd Teuluol

Llwybrau Ffitrwydd Teuluol

Wrth gydweithio gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd ac Actif Gogledd Cymru, mae Byw’n Iach yn falch o gyhoeddi ein bod yn cynnig Llwybrau Ffitrwydd Teulu dros Wynedd!

Mae 13 llwybr ar gael ac mae’r rhain wedi ei lleoli ym mhob cornel o’r sir yn Abererch, Bala, Bethesda, Dolgellau, Glynllifon, Llanberis, Manod, Pwllheli, Porthmadog a Thywyn.

Bydd y llwybrau yn ffordd berffaith i gadw’n heini a threulio amser fel teulu am ddim!

Cardiau Cofnodi

Ar ôl cerdded ar unrhyw lwybr, bydd angen cofnodi eich milltiroedd ar y pecyn (Lawrlwythwch Yma) a chael llofnod gan oedolyn i gadarnhau bod chi wedi ei chwblhau.

Mae tystysgrifau ar gael am 10, 20, 30, 40 a 50 milltir yn ein canolfannau Byw’n Iach neu drwy gysylltu â Ffion Williams, Swyddog Datblygu Chwaraeon Gwynedd ar ffionwilliams3@bywniach.cymru


Y Llwybrau

  • Lon Las, Bethesda, LL57 3NE
  • Llanberis, LL55 4TY
  • Glynllifon, LL54 5DY
  • Hen Lon, Abererch, LL53 5PQ
  • Lon Cob Bach, Pwllheli
  • Manod, LL41 4AF
  • Llwybr Afon Dysynni, Lon Gwalia, Tywyn
  • Llwybr Mawddach, Dolgellau, LL40 1YE
  • Bala, LL23 7YE
  • Llwybr Beddgelert
  • Llwybr Cob Crwn, Porthmadog
  • Llwybr Borth-y-Gest, Porthmadog
  • Llwybr Coedwig Tremadog, Porthmadog

Cofiwch eich bod yn dilyn yr arwyddion yma…

 

 


Pethau i'w cofio wrth ddefnyddio'r llwybrau

I wneud yn siŵr bod pawb yn cadw yn ddiogel ac yn mwynhau, dyma ambell beth i’w gofio wrth ddefnyddio’r llwybrau teuluol:

  • Dilynwch yr arwyddion. Bydd rhai fel yr un uchod i weld ar hyd bob llwybr
  • Rhaid i blant fod o dan oruchwyliaeth oedolyn
  • Gall y llwybrau fod yn llithrig/fwydlyd, cymerwch ofal a gwisgwch esgidiau addas
  • Parchwch ddefnyddwyr eraill y llwybrau


Casglwch eich pecyn o dderbynfa unrhyw ganolfan Byw’n Iach rŵan a dechreuwch eich taith!

Neu lawr lwythwch y PDF yma.