Dewis Iaith:

Lansio Fframwaith Newydd Nofio Cynnar

Lansio Fframwaith Newydd Nofio Cynnar

CYFLEOEDD NEWYDD I FABANOD A PHLANT IFANC I DDYSGU NOFIO 

LANSIO ARDRWAS GWYNEDD

Mae Nofio Cymru yn gyffrous iawn i rannu bod Byw’n Iach wedi lansio rhaglenni nofio Blynyddoedd Cynnar Dysgu Nofio Cymru – Swigod a Sblash yn eu canolfannau hamdden.

Mae Nofio Cymru yn hyrwyddo cyflwyniad babanod a phlant ifanc i’r amgylchedd dyfrol. Dylai cyflwyniad babanod a phlant ifanc i bwll nofio fod yn ddiogel, yn gadarnhaol, yn hwyl ac yn gynyddol i hyrwyddo cariad, drwy gydol ei oes yn y dŵr.

Mae Swigod yn darparu cyflwyniad llawn i’r amgylchedd ddyfrol ar gyfer babanod a phlant ifanc gydag oedolyn y’n bresennol, wedi’i anelu’n benodol at blant 0-3 oed. Mae 4 lefel o ddilyniant mewn Swigod, gyda sgiliau dyfrol yn datblygu’n raddol ar bob lefel. Addysgir oedolion cyfrifol sut i gefnogi a chynorthwyo’r plentyn drwy gemau, caneuon a gweithgareddau hwyl ar y themâu. Mae tystysgrif ar gael ar gyfer cwblhau pob lefel yn llwyddiannus.

Mae’r fframwaith Sblash presennol wedi’i adolygu a’i ddiweddaru, ac mae’n cynnig anogaeth gynyddol annibynnol ac arweiniol i blentyn ifanc mewn amgylchedd dyfrol i ddatblygu hyder yn y dŵr, wedi’i anelu’n benodol at blant 3+ oed. Mae 6 lefel dilyniant mewn Sblash, gyda sgiliau dyfrol yn datblygu’n raddol ar bob lefel, gyda’r plentyn yn fwyfwy annibynnol yn y dŵr. Argymhellir cyflwyno sblash mewn dwy ffordd; naill ai’n dechrau yn 3+ oed gydag athro yn y dŵr yn dysgu hyd at 6 o blant, neu ar gyfer Sblash 1 a 2 gellir ei ddanfon yn yr un fformat â Swigod gydag oedolyn cyfrifol yn mynd gyda phob plentyn. Mae hyn yn caniatáu i blant iau allai symud ymlaen yn gyflym trwy’r rhaglen oherwydd gallent ddechrau eu gwersi dyfrol yn gynnar a datblygu hyder dŵr, gan beidio â chael eu dal nôl yn y system.

Dywedodd Rheolwr Datblygu Dyfrol Byw‘n Iach, Dyfed Davies,“ Rydym yn gyffrous ein bod yn lansio Swigod a Sblash ar draws ein canolfannau hamdden. Bydd y sesiynau hyn yn rhoi cyfle gwych i oedolion gyflwyno eu rhai bach i’r dŵr mewn amgylchedd diogel, gyda chefnogaeth drwy gael llawer o hwyl! Rydym ni’n annog pob oedolyn cyfrifol i ddod â’u plant i’n pyllau mor ifanc â phosib – mae dysgu nofio a mwynhau’r dŵr yn sgil ac yn anrheg am oes. ”

Dywedodd y Rheolwr Dysgu Nofio Cenedlaethol ar gyfer Nofio Cymru, Hanna Guise, “Rydym yn falch iawn o gefnogi Byw’n Iach i lansio ein rhaglenni Blynyddoedd Cynnar ar draws eu canolfannau hamdden. Mae nofio yn un o’r gweithgareddau mwyaf cynhwysol sydd ar gael i’n cymunedau ac mae ein fframweithiau Blynyddoedd Cynnar yn helpu i ddarparu mwy o gyfleoedd i fabanod a phlant ifanc gael cyflwyniad cadarnhaol a hwyliog i ddŵr, yn ogystal â darparu cyfleoedd ar gyfer datblygu llythrennedd corfforol ehangach, cymdeithasu a phrofiadau bondio gydag oedolion sy’n bresennol. ”

Gall darparwyr sydd â diddordeb mewn lansio Swigod a Sblash yn eu rhaglen gysylltu â Datblygwyr Nofio a bydd ein tîm profiadol ac angerddol yn trafod popeth yn fwy manwl gyda chi – aquaticdevelopment@swimming.org

Ar gyfer unigolion Gwynedd sy’n chwilio am wersi nofio i fabanod a phlant ifanc, cysylltwch â Dyfed Davies dyfedglyndavies@bywniach.cymru neu’ch Canolfan Hamdden leol.