Trwy gyd-weithio agos rhwng y Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Byw’n Iach a Derwen datblygodd weledigaeth glir i sefydlu clwb beicio hygyrch i blant anabl yng Ngwynedd ond doedd ddim ddigon o mewn gwelediad a phres i wneud hyn ddigwydd ar y pryd.
O 2006 ymlaen cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau chwaraeon anabledd hefo dros gant o bobl anabl yn mynychu ac roedd hyn yn gyfle ymgynghorol i weld beth oedd y galw am glwb beicio arbenigol. Aethom ati i weithio mewn partneriaeth ffurfiol gyda Derwen, Beicio Cymru ar Bartneriaeth Awyr Agored i ddatblygu Pŵer Seiclo Plas Menai yn 2016, ac erbyn hyn mae yna 27 o aelodau sy’n reidio bob sesiwn.
Yn ddiweddar gafodd Byw’n Iach Grant Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill i ddatblygu ein safle newydd yn Nolgellau hefo buddsoddiad sylweddol o 80k. Mae Pŵer Seiclo yn gynlyn unigryw ac yr unig glwb ledled Cymru hefo 2 feic sy’n gallu cludo defnyddwyr cadair olwyn.
Dywedodd Marcus Politis – Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Byw’n Iach “Hoffwn ddiolch i Steve a Isobel Weake am reoli’r rhaglen gymunedol, mae ymroddiad nhw yn anhygoel ac mae’r cynlyn yn gwella bywydau pobl anabl. Hoffwn ddiolch i’n bartneriaid hirdymor a mwy diweddar Canolfan Dolfeirig, Heddlu Dolgellau, Joe Patton, ac i Roger a Glen am y reidio o Landsend i John o Groats ac yn codi 2.5k i brynu beic ar ran y Bartneriaeth Awyr Agored. Hefyd hoffwn ddiolch i gynghorydd Dyfig Siencyn am helpu’r clwb sicrhau lleoliad i ni sefydlu Pŵer Seiclo yn Nolgellau.”
Mae’r clwb hefyd ar fin ennill y wobr Insport clwb gyda Chwaraeon Anabledd Cymru sy’n tanseilio’r ymroddiad i wella cyfleoedd i bobl anabl, mae’n glwb sydd yn wirioneddol gwella bywydau pobl anabl yng Ngwynedd a hefyd yn denu aelodau o Ynys Môn, Conwy a Powys.
Hoffai Glwb Pŵer Seiclo ddiolch yn fawr i’r gwirfoddolwyr ag aelodau sy’n ymroi eu hamser i’r clwb; ac sy’n ein hysbrydoli, a’n galluogi i lwyddo a thyfu. Diolch i’r holl westeion gwadd am ddod i ddathlu agoriad swyddogol y safle newydd, ac am eu cefnogaeth frwdfrydig bob tro. Diolch i holl bartneriaid sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y clwb, gan gynnwys; Byw’n Iach, Y Bartneriaeth Awyr Agored, Derwen, Cyngor Gwynedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru/ Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Parc Cenedlaethol Eryri, Heddlu Gogledd Cymru a Seiclo Cymru
Am ragor o wybodaeth am ddatblygiad o’r cynllun cyffroes yma cysylltwch â Marcus Politis ar: marcuspolitis@bywniach.cymru neu i ymuno ar clwb cysylltwch â Steve Weake ar: stephen.weake@btinternet.com