Dewis Iaith:

Gŵyliau Ffitrwydd Byw’n Iach 2024

Gŵyliau Ffitrwydd Byw’n Iach 2024

Rhwng 23/09/24-03/10/24, gynhaliwyd 9 canolfan Byw’n Iach ŵyliau ffitrwydd am ddim i roi cyfle i’r cyhoedd gael blas ar yr hyn y mae Byw’n Iach yn ei gynnig trwy gydol y flwyddyn. Roedd sesiynau blasu o amrywiaeth o ddosbarthiadau, o sesiynau dwysedd uchel fel HITT a Seiclo dan do i rai dwysedd isel fel Aerobeg dŵr a Pilates.

Mynychodd 139 o bobl, ac mi oedd hi’n braf gweld cymaint o wynebau newydd yn dod trwy ddrysau’r canolfannau.

Diolch mawr i bawb ddoth draw, dyma fideo bach i edrych yn nol ar y digwyddiad. Cadwch lygaid allan am wynebau cyfarwydd!

Am holl wybodaeth am ddosbarthiadau mae Byw’n Iach yn ei chynnig, cliciwch yma.

Ewch i amserlen eich canolfan lleol i weld pa ddosbarthiadau sydd ar gael i chi: