Dewis Iaith:

Gwobrau Chwaraeon Gwynedd 2024

Gwobrau Chwaraeon Gwynedd 2024

Ar nos Fawrth 19eg Tachwedd 2024, cynhaliwyd trydedd seremoni Gwobrau Chwaraeon Gwynedd yn Galeri Caernarfon.

Mae’r Gwobrau yn gyfle bob blwyddyn i ddathlu llwyddiannau unigolion a thimau eithriadol ar draws amrywiaeth o chwaraeon, gan ddathlu eu gwaith caled a dalent. Doedd eleni ddim yn eithriad, gyda gwobrau yn cael eu cyflwyno i grŵp rhyfeddol o athletwyr, hyfforddwyr a chyfranwyr sydd wedi cael effaith barhaol ar y tirlun chwaraeon yng Ngwynedd.

Dyma beth oedd gan Alun Jones, ein Rheolwr Partneriaethau i’w ddweud am y noson:

“Noson wych eto, diolch i bawb a gymerodd rhan. Pob blwyddyn rydym yn cael ein synnu gyda’r safon, ac mae yn bwysig iawn bod Seremoni fel hyn yn cael ei gynnal er mwyn cydnabod y dalent sydd gennym yng Ngwynedd. Diolch i bawb wnaeth enwebu rhywun, mae yn bwysig bod pobl yn gwneud a ddim yn meddwl bod rhywun arall yn gwneud a all olygu bod unigolyn/clybiau neu dimau yn methu allan. Edrychwn ymlaen at groesawu chi i Seremoni 2025.”

Dyma’r enillwyr holl gategorïau’r noson:

  • Gwirfoddolwr Iau y flwyddyn: MARED MORRIS
  • Athletwraig iau y flwyddyn: ELA LETTON JONES
  • Athletwr Iau y flwyddyn: MITCHEL JONES
  • Athletwr Hŷn Elit y flwyddyn: GARETH MCGUINNES
  • Athletwraig hŷn elit y flwyddyn 2024: MEDI HARRIS
  • Athletwraig Hyn y flwyddyn: MANON WILLIAMS
  • Athletwr Hyn y flwyddyn: SION BRADLEY
  • Clwb y flwyddyn: HOCI BANGOR
  • Tîm y flwyddyn: YSGOLION GWYNEDD
  • Hyfforddwr y flwyddyn: SIMONE GOULD
  • Gwirfoddolwr y flwyddyn: SUE WILLIAMS
  • Darpariaeth gynhwysol y flwyddyn: CAERNARFON CELTS
  • Cyflogwr Actif y flwyddyn: GISDA
  • Partneriaeth y flwyddyn: HERGEST
  • Gwasanaeth i chwaraeon: DEBORAH BASHFORD

Diolch i Morgan Jones am gyflwyno’r noson yn berffaith, Edwin a Ceiri am ein diddanu a Chofio Robin am rannu ei stori gyda ni. Diolch hefyd i bawb enwebodd a fynychodd y gwobrau a phawb cyflwynodd gwobr yn ystod y noson; fe wnaethoch chi helpu i’w gwneud hi’n noson fythgofiadwy.

Llongyfarchiadau i’n holl enillwyr ac enwebiadau! Roedd yn bleser dathlu eich llwyddiannau gyda chi, ac edrychwn ymlaen at weld y pethau anhygoel y byddwch yn eu cyflawni yn y flwyddyn i ddod.

Os hoffech weld lluniau proffesiynol o’r noson, cliciwch yma.

I wylio fideo o’r noson, cliciwch yma.