Dewis Iaith:

Gwobrau Chwaraeon Gwynedd 2023

Gwobrau Chwaraeon Gwynedd 2023

Ar nos Fawrth 5ed o Ragfyr 2023, cafodd Seremoni Wobrwyo Chwaraeon Gwynedd ei chynnal yn y Galeri Caernarfon. Cafodd y seremoni ei chynnal gan Byw’n Iach er mwyn dathlu llwyddiannau trigolion Gwynedd mewn amrywiaeth o feysydd chwaraeon.

Diolch yn fawr i ein gwestai Morgan Jones am gynnal y noson yn berffaith ac i Gruffydd Wyn am ein diddanu yn ystod yr egwyl.

Dyma be oedd gan Alun Jones, ein Rheolwr Partneriaethau ei ddweud am y noson:

Gwych oedd gweld y Galeri yn llawn a chael y cyfle i amlygu’r holl waith caled a’r dalent sydd gennym yng Ngwynedd. Mi oedd hi yn noson lwyddiannus dros ben a diolch i bawb a gymerodd rhan boed ar y noson neu yn rhan o’r paratoadau yn dilyn fyny i’r Seremoni. Rydym yn barod yn edrych ymlaen at Seremoni 2024.

Roedd llu o wobrwyau ar gyfer unigolion haeddiannol iawn yn cael ei gyflwyno gan dîm Byw’n Iach. Dyma’r enillwyr o’r holl gatgoriau cafodd ei gyflwyno ar y noson:

Athletwraig Iau y Flwyddyn: Beca Parry
Athletwr Iau y Flwyddyn: Gethin Griffith
Gwobr Llwyddiant Personol: Lleu Owen
Clwb Insport y Flwyddyn: Clwb Gymnasteg Bangor
Gwirfoddolwr y Flwyddyn: Andrew Williams
Partneriaeth y Flwyddyn: PACT
Tîm Iau y Flwyddyn: Syr Huw Owen dan 15
Tîm Hyn y Flwyddyn: Clwb Hoci Dinas Bangor
Clwb y Flwyddyn: Menai Track and Field
Hyfforddwr y Flwyddyn: Llinos Dobbins
Person Hyn yr Flwyddyn: Llywelyn Williams
Gwasanaeth i Chwaraeon: Meic Griffiths & Tony Parry

Diolch i bawb wnaeth enwebu a mynychu; roedd hi’n noson i’w cofio. Llongyfarchiadau mawr i’r holl enillwyr a phawb cafodd ei enwebu; roedd hi’n bleser dod at ein gilydd i ddathlu eich llwyddiannau chwaraeon.

Os yr hoffwch weld y lluniau swyddogol sydd wedi cael ei dynnu drwy gydol y noson, ewch draw i wefan Sports Pictures Wales.

Gwyliwch fideo o’r noson yma: Fideo