Mae Leah, ein hathrawes nofio wedi bod yn gwneud gwaith ysbrydoledig iawn gyda thri dysgwr arbennig sef Daniel, Steffan a Mari drwy gael gwersi 1 i 1 yn ein pwll nofio. Ac maen nhw i gyd wedi datblygu gymaint ers iddyn nhw ddechrau.
Yn dilyn Covid, roedd angen denu plant a magu ei hyder nofio yn ôl gan fod llawer o blant a rheini wedi colli allan ar dros flwyddyn o fynychu gwersi Nofio a chyfleoedd cymdeithasol.
Ac mae Leah wedi gwneud ac yn dal i barhau i wneud gwaith arbennig i helpu 3 dysgwyr nofio magu ei hyder yn y dŵr.
Stori Daniel:
Dechreuodd Daniel gyda Leah yn hogyn ifanc oedd ofn rhoid ei wyneb yn dwr ac ddim am drio nofio, ac rŵan mae’n gallu gwneud heb pryderon ac wedi llwyddo i wneud 5x10m Rhydd a 4x10m Broga yn y pen bas yn y Pwll Mawr.
Y cam nesaf bydd magu ei hyder i fynd ar ei gefn heb fflôt a ymdrechu i nofio mwy yn y pwll mawr.
Rydym mor hapus i glywed bod ei hyder wedi cynyddu ac llongyfarchiadau mawr iddo am lwyddo i herio a gwthio ei hun!
Da iawn chdi Daniel!
Dyma be oedd gan Leah ei hun i’w ddweud,
“Roedd yn bleser gweld y wen ar ei wyneb ar ddiwedd y wers. Dwi’n edrych mlaen i weld Daniel yn datblygu fwy o sgiliau nofio. Mae’n bleser ei ddysgu, mae’n fachgen mor glên a chwrtais bob amser.”
Stori Steffan:
Mae gan Steffan Cerebral Palsy, a phan ddechreuodd hefo ni, roedd yn nerfus i fynd i ben dwfn y pwll.
Ond bellach mae wedi datblygu yn wych drwy nofio nôl ac ymlaen hyd a lled yn y pwll ar ei fol ac ar ei gefn.
A rŵan mae’n hoffi neidio o’r ochr y pwll ac yn gallu mynd lawr i’r gwaelod heb unrhyw help.
Ardderchog Steffan!
Dyma be oedd gan Leah ei hun i’w ddweud,
“Mae’n fachgen herllyd dros ben, os gofynnaf iddo beidio fy sblasio mae’n siŵr o wneud mewn ffordd drwy gael hwyl sydd yn amlwg yn magu ei hyder. Mae’n deimlad da ei weld yn mwynhau a datblygu ar ôl pob gwers. Mae’n bleser ei ddysgu”
Stori Mari:
Ac mae Mari wedi ei chofrestru yn ddall, ond nid yw ei nam golwg yn ei dal hi’n ôl, ac mae hi’n mwynhau nofio yn arw!
Mae hi wedi datblygu ei sgiliau nofio gymaint trwy’r gwersi 1 i 1 hefo Leah sydd wedi annog ei potensial a codi ei hyder.
Llwyddodd i basio Ton 2 a bellach mae Leah a Mari yn gweithio i basio Ton 3 drwy hefyd ddatblygu ar y 4 strôc nofio.
Gwych Mari!
Dyma be oedd gan Leah ei hun i’w ddweud,
“Mae hi’n blentyn eithaf swil ond hoff iawn cael sgwrs pan mae ei gogls yn stemio fyny. Mae’n bleser ei dysgu ac mae’n deimlad da yn ei gweld yn datblygu i safon.”
Rydym mor hapus i glywed yr holl straeon yma a bod ein gwersi wedi creu effaith gadarnhaol ar fywydau plant!
Llongyfarchiadau mawr i bawb am lwyddo i herio a gwthio ei hunain!