Yn y misoedd diwethaf, cynhaliwyd Byw’n Iach galas nofio ar gyfer ysgolion cynradd ar draws Gwynedd. Cafodd cyfanswm o 8 gala ei drefnu, un ym mhob canolfan ac un ychwanegol yn ganolfan Byw’n Iach Arfon ar gyfer Ysgolion Hafod Lon a Pendalar.
Roddwyd y cyfle i dros 850 o blant o ysgolion lleol gystadlu a dangos y sgiliau oeddent wedi dysgu yn ei gwersi nofio ysgol dros y flwyddyn.
Dyma ddywedodd Dyfed Davies, Swyddog Datblygu Gweithgareddau Dŵr Byw’n Iach, am yr galas:
“Roedd yn wych fod plant ar draws Gwynedd yn cael cyfle i gystadlu yn y pwll. Roedd y safon yn uchel iawn ag y plant i gyd wedi mwynhau.
Y gobaith yw bod cystadlaethau or fath yn annog mwy o blant i fynd ymlaen i glybiau Nofio a cael mwy o gyfleoedd i gystadlu yn y pwll.”
Roedd safon uchel o gystadlu drwy’r holl gystadleuaeth, gyda’r plant yn cystadlu mewn llawer o wahanol strôcs ac mewn ras cyfnewid. Ond yr ysgolion yma buodd yn fuddugol:
Byw’n Iach Arfon
Gala Ysgolion Bach: Ysgol Waunfawr
Gala Ysgolion Mawr: Ysgol Y Gelli
Byw’n Iach Bangor
Gala Ysgolion Bach: Ysgol Tregarth
Gala Ysgolion Mawr: Ysgol Y Garnedd
Byw’n Iach Dwyfor
Gala Ysgolion Bach: Ysgol Edern
Gala Ysgolion Mawr: Ysgol Cymerau
Byw’n Iach Glaslyn
Ysgol Eifion Wyn
Byw’n Iach Penllyn
OM Edwards
Pwll Nofio Bro Ffestiniog
Ysgol Manod
Byw’n Iach Bro Dysynni
Gala Ysgolion Bach: Ysgol Pen y Bryn
Gala Ysgolion Mawr: Ysgol Friog
Diolch a llongyfarchiadau i bawb buodd yn cystadlu, gobeithiwn weld chi yn yr galas nesaf!