Eleni, am y flwyddyn gyntaf ers y pandemig, cafodd cystadleuaeth gymnasteg ei gynnal yn ganolfan Byw’n Iach Plas Silyn, Penygroes. Fe gymerodd 155 o blant ran yn y gystadleuaeth, o saith canolfan Byw’n Iach. Mae’r cystadlaethau yn boblogaidd bob blwyddyn ac mae’n gyfle i blant sydd yn mynychu a dosbarthiadau gymnasteg Byw’n Iach ddatblygu eu sgiliau a dangos yr hyn maent wedi dysgu yn ei dosbarthiadau.
Yn rhan o’r gystadleuaeth mae’n rhaid i’r plant ifanc ddangos dilyniant o waith yn dilyn gyda naid oddi ar y bocs. Mae’r plant hŷn yn cystadlu trwy wneud dau ddilyniant a dwy naid oddi ar y bocs. Fel, bob blwyddyn, roedd safon y gystadleuaeth yn uchel iawn.
Bob blwyddyn mae dwy darian yn cael ei roi i’r enillwyr. Mae’r darian gyntaf ar gyfer y canolfan buddugol sef Byw’n Iach Glaslyn eleni a dyma ei pedwerydd dro i ennill y daran! Yr ail darian yw’r John Pike Award, ar gyfer y sgôr uchaf mewn canrannau o’r merched a’r bechgyn.
Yn gystadleuaeth y bechgyn, Wil Roberts o Byw’n Iach Plas Silyn gorffennodd yn gyntaf ond Eva Jones o Byw’n Iach Plas Ffrancon oedd enillydd llwyddiannus y gystadleuaeth gyfan. Mi oedd Eva yn gyntaf yn gystadleuaeth merched gyda sgôr uchel o 28.20 allan o 30 (94%). Llongyfarchiadau mawr iddi!
Mae ein dosbarthiadau ni yn Byw’n Iach yn dilyn llwybr ‘A-Z’ Gymnasteg Cymru ar gyfer derbyn y sgiliau hanfodol o ddosbarthiadau a grwpiau er mwyn darparu’r gwersi gorau yn ein canolfannau. Mae 7 o ganolfannau Byw’n Iach yn darparu gwersi Gymnasteg o ansawdd uchel ac mae nifer o lefydd ar gael i ddechreuwyr gychwyn o’r newydd.
Mae dosbarthiadau yn ail ddechrau yn wythnosol ar yr 4ydd o Fedi.
Am fwy o wybodaeth am ddosbarthiadau a lefelau gwahanol o gyrhaeddant yn y dosbarthiadau dilynwch y linc a chysylltwch gyda’r canolfannau, neu cysylltwch gyda David Morris ein Cydlynydd Gymnasteg, ar davidwynmorris@bywniach.cymru