Mae pobl yn teimlo’n annifyr ar ôl i mi ddweud mod gen i MS.
Dyma ddywedodd Eurwen Williams wrth iddi drafod ei chyflwr o ddydd i ddydd. Ond mae gan Eurwen egni a gweledigaeth gadarnhaol iawn o fywyd o’i blaen ac yn defnyddio ymarfer corff fel llwybr at feddwl clir. Erbyn heddiw mae hi’n ymarfer ei chorff fwy nac erioed o’r blaen. Mae chwaraeon a chadw’n heini wedi bod yn rhan fawr o fywyd Eurwen Williams ers ei bod hi’n blentyn bach, o chwarae Pêl Rwyd i sefydlu tîm rygbi Merched Caernarfon.
Heddiw, mae Eurwen yn byw o ddydd i ddydd gyda MS, sef Multiple Sclerosis. Dyma gyflwr sydd yn cael effaith ar yr ymennydd a symudiadau cyhyrau’r corff. Dros amser, mae Eurwen wedi derbyn nifer o driniaethau gwahanol, ond wedi darganfod y ffordd sydd yn ei chadw hi’n gadarnhaol drwy’r holl broses yw drwy ymarfer y corff.
Dyma gyflwr nad yw pobl yn ei weld, wrth i Eurwen drafod ei salwch gyda phobl eraill dywed,
Nid yw pobl yn gwybod beth i ddweud rhan fwyaf o’r amser. Ond dw i’n teimlo nad oes pwynt bod yn lletchwith, dim ond fi allith wneud rhywbeth am y peth, a dim eistedd yn teimlo’n isel yw’r ffordd dw i am allu ymdopi gyda fy nghyflwr.
Gweithgaredd roedd Eurwen eisiau datblygu ers oed ifanc, oedd nofio. Fe ymunodd Eurwen gyda’r dosbarth Gwersi Nofio i Oedolion rydym yn gynnig yn ein canolfannau. Yn dilyn y gwersi, mae Eurwen yn falch o allu dweud ei bod hi’n gallu nofio yn llwyddiannus ac wedi gwneud hynny mewn cwmni ac awyrgylch cadarnhaol gan yr hyfforddwyr yng Nghanolfan Byw’n Iach Arfon, Caernarfon.
Yn wythnosol, mae Eurwen yn mynychu’r ystafell ffitrwydd yn Byw’n Iach Arfon yn ogystal â dosbarthiadau ffitrwydd. Mae gan Byw’n Iach nifer o ddosbarthiadau amrywiol, ac felly mae Eurwen wedi trafod gyda’r hyfforddwyr, pa rai fyddai yn fwy addas iddi hi. Dywed ei bod yn cael croeso i siarad yn agored a hyderus gydag unrhyw un o’r staff yn y ganolfan am ei chyflwr.
Hoffai Eurwen ymestyn ei chanmoliaeth am y gwasanaeth mae hi’n ei dderbyn gan Byw’n Iach. Mae argymell i unrhyw un sydd yn dioddef o unrhyw salwch boed yn weledol neu ddim, i ddod i siarad gyda’r ganolfan ar gyfer derbyn y gwasanaeth gora ar eich cyfer.
Dw i weithiau yn cyrraedd y canolfan ar ddiwrnod dw i’n teimlo’n isel, ac mae fy hwyliau yn cael ei newid yn syth. Ydi, mae’r ochr ymarferol yn grêt ond mae’r ochr gymdeithasol yn cael effaith fawr arnaf hefyd. Dw i’n siarad gyda rhywun gwahanol yn y dosbarthiadau ffitrwydd bob tro.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau am gadw’n heini a byw’n iach mae modd i chi gysylltu ag unrhyw aelod o staff yn ein canolfannau. Byddent yn gallu darparu’r gwasanaeth a’r cymorth gorau posib i chi. Yn ogystal, gallwch gymryd golwg ar beth sydd gan Byw’n Iach ei gynnig i chi, drwy ddilyn y linc i’r wefan:
Mae Byw’n Iach hefyd yn cynnig cynllun NERS sef cynllun atgyfeirio i Ymarfer Corff Gwynedd yn rhan o’r cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio Cleifion i Ymarfer Corff Cymru. Am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan: https://www.bywniach.cymru/activity/cynllun-atgyfeirio-cleifion-i-ymarfer-corff-ners/