Dewis Iaith:

Beics Trydan

Beics Trydan

Edrych am ffordd wahanol ac ecogyfeillgar i archwilio Gwynedd? Mae Beics Trydan ar gael i logi gan sawl ganolfan Byw’n Iach. Mae’r beics trydan yn cynnig ffordd ddiymdrech a hwyl i fwynhau’r awyr iach, pe bau chi’n feiciwr profiadol neu’n newydd i feicio.

Mae beics trydan yn ddewis gwych i rai sydd eisiau cyfuno manteision seiclo gyda’r cyfleustra o gymorth trydan. Dyma rhai o’r rhesymau i roi cynnig iddynt:

  • Ecogyfeillgar: Nid yw’r beics trydan yn cynhyrchu allyriadau, sydd yn gwneud nhw’n ddewis gwych i unigolion sydd eisiau fod yn eco-ymwybodol.
  • Manteision Iechyd: Mwynhewch fanteision cardiofasgwlaidd beicio gyda’r bonws ychwanegol o gymorth trydan i’r llethrau straen.
  • Fwy o amser i archwilio: Mae’r beics yn rhoi’r gallu i chi archwilio pellteroedd hirach heb fynd yn flinedig, yn caniatáu chi i ymweld â mwy o’r ardal leol.

O ble mae'r beics ar gael?

Mae’r beics ar gael i logi o canolfannau Byw’n Iach isod:

  • Byw’n Iach Bangor
  • Byw’n Iach Arfon, Caernarfon
  • Byw’n Iach Plas Silyn
  • Byw’n Iach Penllyn, Y Bala
  • Byw’n Iach Plas Ffrancon, Bethesda
  • Byw’n Iach Glaslyn, Porthmadog


Beth yw'r cost i logi beic

Un o’r rhannu gorau o’r beics trydan yw ei fod ar gael AM DDIM i gwsmeriaid Debyd Uniongyrchol!

Os dydych chi ddim yn gwsmer debyd uniongyrchol, mae dal modd i chi logi’r beics. Gwelwch y prisiau isod:

Gyda cerdyn Byw'n Iach Heb cerdyn Byw'n Iach
Oedolion £12.00 £15.10
Consesiwn £9.00 £11.40

Consesiwn ar gael i rai gydag anableddau / 60+ / 16-24

Nodwch, bydd rhaid bod yn 16 + oed i logi beic.

Galwch wrth un o’r canolfannau sydd wedi rhestru uchod i logi beic neu cysylltwch am fwy o wybodaeth!