Rydym wedi ennill achrediad mewn Cynllun Insport!
Mae Insport yn brosiect Chwaraeon Anabledd Cymru sy’n cael ei ddarparu gyda chefnogaeth Chwaraeon Cymru i gydnabod gwaith da o ran creu cyfleoedd cynhwysol. A gyda’r nod o gefnogi’r sectorau gweithgaredd corfforol, chwaraeon a hamdden.
Mae ein Swyddog Datblygu Chwaraeon ar gyfer yr Anabl wedi bod yn brysur iawn yn arwain tîm bach yn Byw’n Iach i baratoi cais ar gyfer yr Achrediad lefel Rhuban, sef y cam cyntaf yn y broses.
Roedd angen casglu a chyflwyno llawer o dystiolaeth am bethau fel hyfforddiant staff, rhaglenni o fewn canolfannau ac enghreifftiau o waith da i addasu i gwrdd ag anghenion pobl anabl.
Cafodd 4 cynrychiolydd o’r cwmni cyfle i gyflwyno ein gwaith i’r panel Insport, sydd yn dyfarnu’r gwobrau. A daeth y newyddion fod y Panel wedi plesio’n fawr efo’n gwaith ac yn hapus i ddyfarnu’r Wobr Rhuban i Byw’n Iach.
Dyma ddyfyniad o’r adroddiad
Teimlai’r Panel fod hwn yn fan cychwyn ardderchog, a oedd yn canolbwyntio ar feysydd gwaith clir yn y dyfodol, yn mynd i’r cyfeiriad cywir yn gadarnhaol. Gwaith partneriaeth barhaus i gefnogi datblygiad cyfleoedd a phrofiadau cynhwysol, gan arwain at weithlu hyderus.
Dyma be oedd gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr, Amanda Davies ei ddweud
Rydym yn falch iawn fod gwaith caled y cwmni i greu cyfleoedd cynhwysol wedi cael ei gydnabod trwy’r wobr. Ond dim ond cychwyn y daith yw hyn. Mi fydden ni’n bwrw ymlaen rŵan i weithio ar yr hyn sydd ei angen fel rhan o safon Efydd y cynllun. Trwy dilyn y fframwaith Chwaraeon Anabledd Cymru mi fydden ni’n sicrhau fod ‘na cyfleoedd addas ar draws ein cyfleusterau a rhaglenni ar gyfer pawb.
Rydym mor hapus gyda’r newyddion yma ac mor falch o allu darparu cyfleoedd cynhwysol yn ein canolfannau!
Rydym ni’n symud ymlaen rŵan i weithio tuag at y safon Efydd.
Am fwy o wybodaeth am y cynllun, cliciwch yma