Mae Clwb Nofio Caernarfon wedi llwyddo i gyflawni safon achrediad Insport Efydd Clwb! Achrediadau sydd yn cael eu cynnig gan Anabledd Chwaraeon Cymru yw Insport ac mae hyn yn gydnabod eu hymrwymiad i gynnwys pobl anabl yng Nghymru ac i ddarparu cyfleoedd chwaraeon ar eu cyfer.
Mae Alun Thomas, sydd â nam corfforol, ac Ela Letton-Jones, sydd â nam ar ei golwg, yw dau aelod o’r clwb sydd wedi profi cynwysoldeb y clybiau yn uniongyrchol. Dyma eu stori!
Alun Thomas’ Story:
“Dechreuais wersi nofio ym Mhlas Menai nol yn 2018 pan oeddwn yn 4 mlwydd oedd. Roeddwn wrth fy modd bod yn y dŵr hyd yn oed yr adeg yno. Ond daeth Covid (a phyllau’n cau) fel roeddwn yn magu hyder i nofio’n annibynnol a doedd dim nofio am amser hir.
Pan gawsom ail gychwyn nofio dywedodd Bron (un o’r hyfforddwyr ym Mhlas Menai) ddylai ymuno gyda Chlwb Nofio Caernarfon. Es i am sesiwn dreialu ym mis Mai 2022 a chychwyn hyfforddi gyda’r clwb pob pnawn Sul. Erbyn hyn rydw i’n hyfforddi gyda’r clwb 3 gwaith yr wythnos yn ogystal â’m gwersi arferol ym Mhlas Menai.
Eleni cefais gynnig ymuno efo Nofio Gwynedd, sy’n golygu sesiwn nofio arall am 6yb ar foreau Sadwrn, ac rwyf yn aros i gael fy asesu ar gyfer cychwyn fy siwrne’ ar lwybr para gyda Nofio Cymru. Er y boreau cynnar a’r oriau o hyfforddi yn y pwll dwi wrth fy modd gyda’m siwrne nofio hyd yn hyn. Dwi wedi cystadlu mewn galas, cael cyfle i nofio mewn pwll 50m, ac wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd fydd yn rhan o’m bywyd am amser hir iawn.”
Ela Letton-Jones’ Story:
“Ddechreuais yng Nghaernarfon i ddysgu nofio pan oeddwn yn 5. Rhoddodd hyn ddigon o sgiliau i mi ymuno a chlwb nofio Caernarfon yn 9 oed. Ar ôl ychydig o flynyddoedd o nofio ychydig o weithiau’r wythnos. Cefais fy nghodi gan garfan sylfaen Nofio Cymru. Ar ôl ychydig o flynyddoedd ymunais a pherfformiad Nofio Gwynedd.
Dros y tair blynedd diwethaf rydw i wedi symud ymlaen i garfan Nofio Elite Cymru. Hefyd, rydw i wedi gallu cystadlu mewn amrywiaeth o bencampwriaethau Prydeinig a chyfresi byd para yn Limoges a Berlin.”
Am fwy o wybodaeth ar Clwb Nofio Caernarfon, ewch i’w tudalen Facebook: Clwb Nofio Caernarfon