Dewis Iaith:

Actif Am Oes

Ystod o weithgareddau ffitrwydd a chwaraeon dwysedd isel i bob oed ar draws Gwynedd.
Mae’r sesiynau’n boblogaidd gyda phobl hŷn, y rhai sy’n edrych i ddechrau neu ailddechrau ymarfer corff, y rhai sy’n gwella o anafiadau, pobl ag anableddau.

Mae croeso mawr i’r rhai sy’n dilyn Rhaglen NERS neu sydd wedi cwblhau’r rhaglen ddod i’r sesiynau hyn.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu unrhyw sesiynau cyn i chi fynychu’r ganolfan.

Wrth edrych ar raglenni ein canolfannau cadwch olwg am y logo porffor Actif Am Oes

Mae pob canolfan yn cynnig Bore neu Prynhawn o sesiynau Actif Am Oes egnïol.  Mae sesiynau yn 2 awr i ddefnyddio amrywiaeth o gyfleusterau am bris arbennig o £3. Mae’r union gyfleusterau a gweithgareddau yn amrywio rhywfaint o ganolfan i ganolfan ond fel arfer maent yn cynnwys:

  • Cyfle i chi ddefnyddio’r Ystafell ffitrwydd gyda llawer o gefnogaeth gan ein staff
  • Gweithgareddau Neuadd Chwaraeon (e.e. badminton, tenis bwrdd, picl, boccia neu denis byr)
  • Dosbarth ffitrwydd dwysedd isel (e.e. Cadair Aerobeg, Cylchedau Ysgafn)
  • Cyfle i ddefnyddio ein gerddi cymunedol
  • Cyfle i ddefnyddio cyrtiau chwaraeon raced (e.e. sboncen, tennis ac ati)
  • Cyfle i ddefnyddio ein meysydd tu allan
  • Mae’r sesiynau Nofio am Ddim 60+ hefyd yn rhan o’r cynllun ac ar gael ym mhob un o Byllau Nofio Byw’n Iach. Mwy o wybodaeth am ein Nofio Am Ddim.

Heblaw am y Bore neu’r Prynhawn Egnïol am Oes bob wythnos, mae amrywiaeth o weithgareddau dwysedd isel ar raglenni pob canolfan. Rydym wedi marcio’r rheini gyda’n logo porffor Actif Am Oes. Maent yn cynnwys sesiynau Nofio am Ddim 60+, sesiynau garddio cymunedol am ddim a dosbarthiadau ffitrwydd dwysedd isel sydd ar gael am y ffi arferol neu drwy aelodaeth.

Mae prisiau consesiwn is ar gael ar amrywiaeth o weithgareddau i’r rheini sy’n 60+ neu wedi’u cofrestru’n anabl. Gofynnwch i’n staff yn y ganolfan am ragor o wybodaeth neu edrychwch ar ein rhestr brisiau ar-lein: Prisiau Llawn