Dewis Iaith:

Mae Byw’n Iach wedi derbyn achrediad Insport Arian!

Mae Byw’n Iach wedi derbyn achrediad Insport Arian!

Dyma achrediad sydd yn cael ei gynnig gan Chwaraeon Anabledd Cymru.

I gyflawni safon Arian, rydym wedi cyflwyno tystiolaeth yn amlygu ein bod yn datblygu cyfleoedd cynhwysol ar draws ein darpariaeth hamdden a chwaraeon drwy Wynedd gyfan.

Mae’r anerchiad yma yn amlygu bod Byw’n Iach yn llwyddo i sicrhau bod cynhwysiant yn naturiol ym mhob cam o waith y cwmni ac arddangos y diwylliant cynhwysol sydd ar waith ar draws y ganolfannau hamdden, hybiau cymunedol a phob math o weithgareddau yr ydym ynghlwm gydag ef ar draws sir.

Mae Byw’n Iach wedi blaenoriaethu anabledd fel un o’u meysydd ffocws allweddol o fewn eu Cynllun Plant a Phobl Ifanc Gwynedd ar gyfer 2025-26. Gyda 96 aelod o staff yn cael mynediad i Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd, ynghyd ag ymwybyddiaeth o awtistiaeth, marchnata cynhwysol a Makaton, mae newid amrywiol wedi cael ei wneud i rhaglenni penodol a gynigir ar draws y Sir.

Dyma rai o’r nifer o bethau cafodd eu amlygu yn y cyflwyniad eleni, ac blaenoriaeth hefyd yn cael ei roi am ddatblygu perthynas gyda clybiau cymhwysol, a chasglu data ar draws y sir.

Dyma oedd gan y Panel i ddweud:

“Mae yna dystiolaeth glir o waith yn cael ei wneud drwy weithlu’r sefydliad ac eglurder o ran ysgogi cynhwysiant ar draws y busnes o’r brig i’r staff sy’n cyflwyno i’r trigolion. Mae’r panel yn credu’n gryf, gyda chyfeiriad clir a momentwm parhaus, fod gan Byw’n Iach hefo potensial i ddod yn arweinydd yn y maes hwn gan greu effaith ddwys a pharhaol ar drigolion Gwynedd”

 

Dywedodd llefarydd ar ran Byw’n Iach:

“Gwych oedd derbyn y newydd bod ein gwaith caled wedi golygu ein bod yn cael y dyfarniad arian. Mae’r adroddiad yn nodi nifer o bwyntiau cadarnhaol sydd yn dangos y cynnydd sydd wedi digwydd yn ein darpariaeth ers i ni ymgeisio a bod yn llwyddiannus am yr dyfarniad efydd. Byddwn yn parhau i gynnig ac adolygu ein darpariaeth cynhwysol ac wrth wneud hyn byddwn yn ymrwymo i fynd am y Dyfarniad Aur.”